Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu’n bobl sy’n rhoi eu sgiliau a’u hamser am ddim i gyflawni tasgau sydd wedi eu cynllunio i gyfoethogi gwaith yr heddlu a darparu cefnogaeth ychwanegol i gymunedau lleol.
Mae gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu’n cynorthwyo swyddogion a staff yr heddlu gydag amrywiol dasgau gan eu galluogi i ganolbwyntio ar ddyletswyddau plismona craidd, sy’n golygu mwy o swyddogion ar y strydoedd a gwell cefnogaeth gymunedol. Bydd cynnal presenoldeb heddlu amlwg yn ein cymunedau hefyd yn helpu’r Heddlu i gyflawni ei amcan o ostwng trosedd, anhrefn ac ofn.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Bydd rolau gwirfoddoli’n amrywio mewn nifer o ffyrdd, gan ddibynnu ar anghenion y gwasanaeth heddlu.
A oes yna faes penodol o blismona sydd o ddiddordeb i chi? Os oes, cysylltwch â’r Cydlynydd Dinasyddion o fewn Plismona a fydd yn hapus i gynorthwyo wrth archwilio cyfleoedd ichi.
Drwy wirfoddoli cewch:
Darperir treuliau ar gyfer teithio a chostau gwariant.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, fodd bynnag, rydym yn disgwyl gonestrwydd, uniondeb ac ymdeimlad o ymrwymiad, ac ar gyfer rhai rolau bydd galw am sgiliau arbenigol i gyflawni’r rôl. Mae sgiliau cyfathrebu, rhyngweithio, llythrennedd a thechnoleg gwybodaeth yn ddymunol iawn. Dylai gwirfoddolwyr hefyd ddangos agwedd gadarnhaol a chyfeillgar ynghyd â pharodrwydd i ddysgu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob safle cymdeithasol a chefndir, beth bynnag eu hoed, rhyw, anabledd, hil, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol, neu a ydynt wedi ailbennu rhywedd, yn briod/mewn partneriaeth sifil neu’n feichiog/ar famolaeth.
Ydych chi’n gallu ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi pobl ifanc? Os felly, beth am fod yn Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Nodau Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yw -
Fel Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol bydd eich dyletswyddau’n cynnwys helpu i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi yn y cyfarfodydd nos a gynhelir yn wythnosol, cefnogi ein gwirfoddolwyr ifanc i gyflawni eu nodau, yn ogystal â helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u hannog i ddod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau eu hunain. Mae proffil rôl llawn yr Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol isod.
Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer Arweinwyr Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol ar draws ardal yr heddlu o fewn ein 7 uned cadetiaid yn y Drenewydd, Aberhonddu, Rhydaman, Llanelli, Penfro, Aberteifi, a Caerfyrddin.
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â’r Cydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona drwy anfon e-bost at [email protected].