Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Drwy gydol y flwyddyn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan ymgysylltu â’n cymunedau er mwyn dangos y manteision o weithio i ni.
Gyda’n nifer fawr o opsiynau gyrfa, mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ddysgu am y rolau sydd gennym ar gael a siarad â swyddogion sy’n gwasanaethu ac aelodau o staff yr heddlu er mwyn cael cipolwg ar eu gyrfaoedd gyda’r heddlu.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio mwy o bobl o’n cymunedau amrywiol er mwyn bod yn gwbl gynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ymgeiswyr o bob cefndir a grŵp ethnig i wneud cais ac wedi ymrwymo i wneud cydraddoldeb yn realiti, o fewn y sefydliad a thrwy'r gwasanaeth plismona yr ydym yn ei ddarparu. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, cliciwch yma.
Rydym yn gwybod y gall gwneud cais am rôl newydd godi ofn arnoch chi ac efallai bod gennych gwestiynau, felly mae'r tîm recriwtio ar gael i ateb unrhyw un o'ch cwestiynau bob dydd Mercher rhwng 11am a 11.30am trwy MS Teams yma.
Gallwn gynnig cymorth ac arweiniad ar gyfer unrhyw rôl, p’un ai eich bod ar ddechrau’r broses recriwtio neu’n aros am eich llythyr cynnig.
Os na allwch ddod i’r sesiwn deialu mewn, rydym yn croesawu ymholiadau drwy e-bost: [email protected]
Os ydych yn cynnal digwyddiad recriwtio ar gyfer eich cymuned leol a’ch bod yn meddwl y dylem gymryd rhan er mwyn arddangos ein cyfleoedd gyrfa, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]