Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i recriwtio mwy o bobl o'n cymunedau amrywiol er mwyn bod yn gwbl gynrychioliadol o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Anogir ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir a grŵp ethnig. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud cydraddoldeb yn realiti o fewn y sefydliad a thrwy’r gwasanaeth plismona rydyn ni’n darparu. Rydyn ni’n anelu i gyflogi gweithlu cynrychioliadol sy’n adlewyrchu cyfansoddiad ein cymunedau.
Mae gweithredu cadarnhaol yn ymwneud â chreu maes chwarae gwastad er mwyn galluogi pobl i gystadlu ar dermau cyfartal. Mae’n disgrifio amrediad o weithredoedd cyfreithlon sy’n ceisio goresgyn neu leihau anfanteision mewn cyfleoedd ar gyfer gwaith y mae pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig wedi profi, neu fodloni eu hanghenion gwahanol.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu cyflogwyr i ddefnyddio gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio a dyrchafu.
Mae gweithredu cadarnhaol yn stopio cyn unrhyw ran o’r broses ddethol, ac felly nid yw’n golygu rhoi mantais annheg i ymgeiswyr penodol oherwydd eu Nodweddion Gwarchodedig.
Na. Yn aml, cymysgir gweithredu cadarnhaol â gwahaniaethu cadarnhaol. Nid yw gweithredu cadarnhaol yn golygu y bydd pobl ond yn cael eu recriwtio oherwydd eu rhyw, ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol. ‘Gwahaniaethu cadarnhaol’ yw hyn, sy’n anghyfreithlon.
Rydyn ni’n trin pob ymgeisydd yn deg ac mae recriwtio’n seiliedig ar deilyngdod. Yn aml, ceir canfyddiad bod gweithredu cadarnhaol yn cynnwys lleihau’r bar er mwyn cynyddu amrywiaeth ein heddlu – nid yw hynny’n wir.
Yn syml, y bwriad yw goresgyn neu leihau anfanteision mewn cyfleoedd gwaith y mae rhai pobl yn profi. Gall hyn fod mor syml â chwalu’r rhagdybiaethau a mythau y gall fod gan rai cymunedau mewn perthynas â’r Heddlu.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac wrth wneud, annog unigolion o’n cymunedau amrywiol i ymgeisio.
Y naw nodwedd warchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw:
Mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn falch o gael nifer o rwydweithiau staff sy’n cefnogi’r heddlu o ran rhoi cymorth i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli drwy fentrau recriwtio a chadw gweithredu cadarnhaol:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r uchod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â gweithredu cadarnhaol a sut allwch chi gymryd rhan, cysylltwch â [email protected]