Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A hoffech chi...
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ledled ardal yr heddlu. Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 13 ac 17 oed gyda'r nod o wneud y canlynol:
Nod y cynllun yw rhoi’r cyfle i bobl ifanc rhwng 13 ac 17 oed ddatblygu eu rhinweddau a’u sgiliau trwy raglen strwythuredig ac i wella’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Mae Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yn dod o bob un o’n cymunedau amrywiol, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol, ac yn cynnwys y rhai sydd mewn perygl o ddioddef trosedd neu allgáu cymdeithasol.
Mae rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cynnig amrywiaeth gwych o gyfleoedd i’r bobl ifanc dan sylw.
Bydd cadetiaid yn:
Y nod yw paratoi pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol trwy ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd amrywiol i ddatblygu a gwella sgiliau rhyngbersonol a hyder, a chyflawni ymdeimlad o falchder trwy gefnogi plismona cymunedol.
Mae darparu amgylchedd diogel a saff lle gall pobl ifanc gyfarfod ag eraill, dysgu am blismona a materion plismona, cyfrannu at fentrau cymunedol, a chael hwyl wrth wraidd y profiad a ddarperir trwy Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Mae’r cyhoedd yn disgwyl ac yn haeddu ymddiried a chael hyder yn eu heddlu, ac mae hyn yn fwy pwysig byth o ran amddiffyn plant a phobl ifanc yn ein gofal wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan wasanaeth yr heddlu.
Tra bod Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yn rhan o’r mudiad cenedlaethol, rydym yn rheoli ein risg ein hunain mewn perthynas â diogelwch ein cadetiaid a’n harweinwyr. Disgwyliwn i’n holl swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu sy’n cefnogi unedau cadetiaid gynnal y safonau uchaf o ran diogelu, amddiffyn a goruchwylio plant. Fel rhan o hyn, mae pob arweinydd yn cael ei fetio cyn gallu cymryd rhan a chefnogi gweithgareddau’r uned cadetiaid yn ogystal â chael gwiriadau manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn y fframwaith diogelu cenedlaethol y cytunwyd arno gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ac mae pob Prif Gwnstabl wedi cytuno i fabwysiadu hwn. Mae’n cynnig dull symlach a chyson o adrodd a rheoli pryderon diogelu, recriwtio arweinwyr, hyfforddi, trefnu gweithgareddau a thu hwnt. Mae hyn yn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt ar lefel leol a chenedlaethol a bod adrodd ac ymchwilio cyfrinachol yn cael ei wneud mewn modd cyson.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Diogelu Cenedlaethol sy’n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â heddluoedd ynglŷn â’r cyfrifoldeb hollbwysig hwn ac am y safonau a’r codau ymddygiad a ddisgwylir ar lefel genedlaethol fel y gallwn barhau i weithio tuag at ddarparu’r safonau mwyaf diogel ac uchaf o ran diogelu ieuenctid yn genedlaethol.
Os oes gennych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod unrhyw bryderon am ddiogelwch unrhyw un sy’n ymwneud â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu adroddwch hynny.
Fel arall, os nad oes perygl / bygythiad uniongyrchol gallwch roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennych am gadét neu arweinydd cadetiaid trwy anfon neges e-bost at:
Mae gan Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu fframwaith trosfwaol cytunedig y mae heddluoedd ar draws y DU yn gweithredu eu cynlluniau cadetiaid oddi mewn iddo.
Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn grŵp ieuenctid mewn lifrai heddlu a gydnabyddir yn genedlaethol ledled Cymru a Lloegr. Er ei fod yn fudiad cenedlaethol, yn gweithio i safonau y cytunwyd arnynt, mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu lleol yn gweithredu’n hyblyg mewn heddluoedd lleol, gyda heddluoedd unigol yn gyfrifol am eu cyflawni. Anogir rhannu arferion da a dysgu ar lefel genedlaethol. Disgwylir i’r swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu sy’n cefnogi unedau cadetiaid gynnal y safonau uchaf yn unol â gwerthoedd plismona ym Mhrydain. Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu Cenedlaethol yn rhan o’r portffolio cenedlaethol Dinasyddion mewn Plismona ehangach. Mae pob heddlu yn gweithredu o dan fframwaith a gefnogir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gan rannu nodau ac egwyddorion cyffredin Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ar draws Cymru a Lloegr.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Cynhelir sesiynau cadetiaid yn y lleoliadau canlynol yn ystod y tymor yn unig.
Gellir trefnu gweithgareddau ychwanegol yn ystod gwyliau ysgol.
Aberhonddu – nos Iau 6pm-8pm
Y Drenewydd – nos Fercher 6.30pm-8.30pm
Caerfyrddin – nos Iau 6pm-8pm
Rhydaman – nos Iau 6pm-8pm
Llanelli – nos Iau 6pm-8pm
Doc Penfro – nos Fercher 6.30pm-8.30pm
Bydd holl Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cael gwisg cadetiaid am ddim gan gynnwys bŵts. Rhoddir manylion llawn wrth ymuno.
I wneud cais i ymuno â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu bydd angen i chi fod rhwng 13 oed a 17 oed.
Rhaid i gadetiaid 18 oed adael y rhaglen ond gallant wneud cais i ddod yn Arweinydd Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o fewn uned Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu wahanol.
Os ydych yn hŷn na 18 oed, gallwch hefyd wirfoddoli i fod yn Arweinydd Cadetiaid
Ni chodir tâl am ymuno â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Mae cadetiaid yn cyfarfod yn wythnosol a disgwylir y byddwch yn mynychu pob sesiwn. Addysg fydd yn dod gyntaf bob amser.
Efallai y gofynnir i chi hefyd fynychu gweithgareddau a digwyddiadau y tu allan i’r cyfarfodydd rheolaidd ac argymhellir yn gryf eich bod yn bresennol.
Bydd rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn rhoi cipolwg i chi ar blismona a bydd yn eich helpu i wneud dewisiadau gyrfa. Fodd bynnag, nid yw aelodaeth yn llwybr gwarantedig i ddod yn swyddog heddlu neu unrhyw gyflogaeth arall o fewn gwasanaeth heddlu.
Mae ein rhaglen yn agored i bob person ifanc beth bynnag yw eu huchelgeisiau gyrfa neu alluoedd. Gallwch ymuno â’r cadetiaid hyd yn oed os nad ydych yn dymuno dilyn gyrfa ym maes plismona yn y dyfodol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o wasanaethu’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn ymweld â hi. Ein nod yw darparu gwasanaeth o safon uchel y gall pawb ei ddefnyddio ac sy’n deg i bawb. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth sy’n annog agweddau cadarnhaol ac yn dileu gwahaniaethu.
Gallwch ymweld â'n tudalen gweithredu cadarnhaol yma
Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i bobl ifanc ddatblygu i fod yn ddinasyddion da.
Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i bobl ifanc ddatblygu i fod yn ddinasyddion da. Rydym yn grŵp ieuenctid mewn lifrai cwbl gynhwysol sy’n croesawu cadetiaid o unrhyw grŵp cymdeithasol, economaidd, ethnig, rhywedd, gallu neu anabledd. Rydym yn annog pobl ifanc a all deimlo dan anfantais oherwydd trosedd neu allgáu cymdeithasol i ymuno â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n berthnasol i’w gallu a’u hoedran a gofynnir i chi lenwi ffurflen iechyd a chaniatâd ar eu cyfer, er mwyn sicrhau bod gan eu huned yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw faterion sy’n ymwneud ag iechyd. Bydd angen llenwi ffurflen iechyd a chaniatâd ar gyfer pob digwyddiad.
Cedwir yr holl fanylion personol dan amodau diogelwch a gydnabyddir yn genedlaethol ac ni chânt eu rhannu â sefydliadau y tu allan i wasanaeth yr heddlu.
Darllenwch ein polisi diogelu i gael gwybodaeth am sut y byddwn yn gofalu am eich pobl ifanc tra byddant gyda ni.
Os oes gennych unrhyw bryderon am gadét neu arweinydd cadetiaid gallwch eu codi gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a amlinellir yma. Gall unrhyw un ddefnyddio’r broses hon: rhiant, cadét, arweinydd cadetiaid neu aelod o’r cyhoedd.
Does dim ots pa mor fach y gall problem ymddangos, na phwy yw’r arweinydd neu’r cadét, byddem yn eich annog i gysylltu â ni i roi gwybod i ni am y sefyllfa.
Mae’n bwysig bod pobl yn teimlo y gallant godi pryderon, ni waeth am bwy y maent, gan fod hyn yn ein helpu i gynnal amgylchedd diogel i gadetiaid. Os ydych chi’n gweld neu’n profi rhywbeth nad ydych chi’n hapus yn ei gylch, rhowch wybod amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu:
Heddlu Diogelu Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys
Heddlu Recriwtio Mwy Diogel Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Chwythu’r Chwiban Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Iechyd a Diogelwch Heddlu Dyfed-Powys