Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o wasanaethu ein cymunedau amrywiol niferus ar draws y sir, a’n nod yw hyrwyddo a sicrhau gweithlu gwbl gynhwysol er mwyn adlewyrchu’r cymunedau hynny.
Mae’r heddlu wedi cyflogi SCCH ers 2003, a phrofwyd eu bod yn ased gwerthfawr, gan weithio i gefnogi cydweithwyr sy’n swyddogion heddlu. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwerthfawrogi gwahaniaeth ac yn cydnabod fod pobl â sgiliau, agweddau a phrofiadau amrywiol, o gefndiroedd a diwylliannau amrywiol, yn cyflwyno safbwyntiau a syniadau ffres.
Unigolion lleol brwdfrydig yw ein SCCH sy’n aml yn dangos ein hymrwymiad tuag at wneud cymunedau Dyfed-Powys yn fwy diogel ac i deimlo’n fwy diogel. Ychydig iawn o rolau sy’n fwy amrywiol a diddorol. Gallech fod yn sicrhau a chynghori preswylwyr, trefnu bod ceir sydd wedi’u gadael yn cael eu symud, riportio am weithgareddau amheus, ac yn mynd i gyfarfodydd lleol.
Yr ydym yn rhoi’r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd angen arnoch. Y cyfan sydd angen ichi wneud yw poeni am eich cymuned a bod yn dda am siarad â’r cyhoedd mewn ffordd ddiplomyddol, hyderus ac awdurdodol, ac wrth gwrs, parchu’r gwahaniaethau sy’n gwneud ein cymunedau’r hyn ydynt.