Mae SCCH Heddlu Dyfed-Powys yn rôl mor amrywiol ag y mynnwch!
Staff heddlu mewn lifrai yw Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu. Maent yn gweithio i ategu a chefnogi swyddogion heddlu cyffredin. Mae SCCH yn darparu presenoldeb lifrog amlwg a hygyrch, gyda'r nod o wella ansawdd bywyd yn y gymuned a chynnig mwy o sicrwydd i'r cyhoedd.
Mae rôl SCCH yn unigryw, ac mae wedi'i chynllunio’n benodol ar gyfer mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion lleol sy'n effeithio ar ansawdd bywyd cymunedau. Fel SCCH Heddlu Dyfed-Powys, byddwch chi’n gweithio i ymgysylltu â’r gymuned leol, gan adeiladu perthnasau â nhw i roi tawelwch meddwl, a gweithio’n agos â nhw i fynd i’r afael â materion sy’n achosi pryder yn lleol. Pob dydd, disgwyliwn ichi gael yr ysfa a’r awydd i wneud gwahaniaeth.
Mae gweithio fel SCCH yn amrywiol a heriol, ond mae pob dydd yn wahanol ac mae’r gwaith yr ydych yn ei wneud yn fuddiol tu hwnt.
Gweithgareddau gwaith
Mae pob dydd yn y gwaith fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) yn wahanol, ac mae pob dydd yn cyflwyno heriau newydd. Yr hyn sydd ddim yn newid yw’r ffaith y byddwch yn ceisio gwella bywydau ein cymunedau, datrys amryw o broblemau a gwneud gwahaniaeth wrth gyflawni eich gwaith.
Fel SCCH Dyfed-Powys, byddwch:
- Yn gweithio i helpu cymunedau i ddatblygu a ffynnu
- Yn datblygu cysylltiadau a pherthnasau gyda chymunedau, gan gynnwys busnesau, preswylwyr, arweinwyr cymuned ac asiantaethau partner
- Yn helpu i adeiladu a chynnal perthnasau gyda’r cymunedau amrywiol a’n pobl ifainc
- Yn bresenoldeb amlwg o fewn y gymuned, gan gynnal patrolau amlwg er mwyn tawelu meddyliau pobl
- Yn ymateb i amrediad o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, anghydfod rhwng cymdogion a cherbydau sydd wedi’u gadael, ac yn cynorthwyo ag ymholiadau unigolion coll
- Yn cymryd ymagwedd datrys problemau tuag at broblemau tymor hir yn y gymuned, gan weithio gyda phartneriaid a’r gymuned er mwyn helpu i’w datrys
- Yn helpu i dawelu meddyliau a chefnogi dioddefwyr trosedd, gan gynnig cyngor atal trosedd er mwyn helpu i’w cadw’n ddiogel
- Yn helpu i blismona digwyddiadau mawr, cynulliadau, gwyliau a sioeau
- Yn defnyddio’r pwerau a roddwyd i chi i’ch helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd yn eich cymuned
- Yn casglu tystiolaeth TCC ac yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ i’n helpu â’n hymchwiliadau.
- Yn gweithredu fel tyst proffesiynol, gan fynd i’r llys pan fod angen
Yn aml, gall ymyrraeth gynnar ein SCCH a’n hymagwedd tuag at blismon bro helpu i atal troseddau rhag digwydd, a gall atal problemau sy’n codi mewn cymunedau rhag gwaethygu. Drwy ein rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr byddwch yn dysgu:
- Ymdrin â mân droseddau, gan ddefnyddio’r pwerau a roddwyd i chi – gan gynnwys datrysiad cymunedol
- Adnabod cyfleoedd ar gyfer ymyrryd, ac atal pobl rhag cyflawni troseddau
- Defnyddio’r model datrys problemau OSARA i fynd i’r afael â materion cymunedol
- Cyfathrebu â’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw yn y ffordd sy’n bodloni eu hanghenion orau
- Cynorthwyo plismona rheng flaen gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau plismona traddodiadol ac arfau digidol newydd
- Cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ
- Gwarchod lleoliadau trosedd
Oriau ac amodau gwaith
Eich wythnos waith arferol fydd 37 awr ar system sifft rhwng 9:00y.b. a 10:00y.h. a fydd yn cwmpasu 7 diwrnod yr wythnos.
Fel SCCH, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn cynnal patrolau ar droed yn eich cymuned, fel presenoldeb amlwg, cysurlon. Trwy’r perthnasau y byddwch yn eu hadeiladu â’r gymuned, yn aml, byddwch chi’n cael cwestiynau neu wybodaeth am faterion a phryderon. Yr ydym yn edrych am rywun sy’n medru cyfathrebu’n effeithiol â’n cymunedau mewn amrywiaeth eang o wahanol sefyllfaoedd.
Bydd angen trwydded yrru llawn arnoch, a rhaid eich bod chi’n 18 oed neu hŷn pan fyddwch chi’n ymuno.
Byddwn ni’n rhoi’r holl offer fydd angen arnoch i gyflawni eich dyletswyddau’n ddiogel ac effeithiol. Mae gan ein SCCH y pŵer i ddal, felly byddwch chi’n cario gefynnau ac yn cael eich hyfforddi i’w defnyddio.
Beth yw’r fantais i chi?
Mae ymuno â ni yn Heddlu Dyfed-Powys fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu’n golygu y bydd gennych fynediad at amrediad eang o fanteision a chymorth, gan gynnwys:
- Cyflog cychwynnol o £24,552 ynghyd â lwfansau am weithio sifftiau neu ar benwythnosau (os yn berthnasol).
- 24 diwrnod o wyliau y flwyddyn, sy’n cynyddu gyda gwasanaeth (hyd at 32 diwrnod).
- Byddwch chi’n gweithio patrwm sifft pendant i gychwyn, ond unwaith y byddwch chi wedi cwblhau 26 wythnos o wasanaeth, byddwch chi’n gymwys i wneud cais ar gyfer oriau gweithio hyblyg.
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu gan gynnwys mynediad at becynnau e-ddysgu.
- Mae gan weithwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd hawl i fanteision mamolaeth
- Darpariaethau tâl salwch
- Drwy gydol eich gwasanaeth, byddwch chi’n gymwys i fod yn aelod o’r cynllun pensiwn.
- Bydd fynediad at gymorth gan Unsain; y corff cynrychioladol ar gyfer staff heddlu ar draws y DU.
- Rydyn ni’n cynnig amrediad llawn o Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol, gan gynnwys sgrinio meddygol, brechu, ffisiotherapi, a gwasanaethau cwnsela. Bydd gennych fynediad 24/7 at CareFirst, rhaglen gymorth ar gyfer gweithwyr.
- Byddwch chi’n ymuno â’n cynllun buddion ar gyfer staff, sy’n cynnig gostyngiadau ar gyfer amryw o siopau ar y stryd fawr ac ar-lein.
- Mae ein Cymdeithas Chwaraeon a Hamdden yn cynnig mynediad i nifer o gampfeydd ar safleoedd heddlu ledled ardal Dyfed-Powys. Hefyd, mae cyfle i chi’n cynrychioli ni mewn amryw o chwaraeon, o bêl droed a rygbi, i achub bywyd a thriathlon.
- Cymorth a chyngor gan ein Cymdeithasau Staff a’n Rhwydweithiau Cymorth, sy’n cynnwys y canlynol: y Rhwydwaith Cefnogi Gallu, y Gymdeithas Heddlu Cristnogol, y Rhwydwaith Cefnogi Staff Benywaidd, y Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Cefnogi Staff o Leiafrifoedd Ethnig.
Heblaw’r manteision anhygoel hyn, mae llawer mwy o fanteision i fod yn Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu!
Bydd pob diwrnod yn wahanol a byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau Heddlu Dyfed-Powys drwy atal helynt a gwneud eich cymuned yn gryfach a mwy diogel. Efallai bydd angen ichi gamu i mewn a thawelu ffrae ar y stryd, neu drefnu cyfarfod ar gyfer preswylwyr sy’n poeni am ailddatblygu tir. Yn gyfnewid am eich gwaith caled, byddwch chi’n:
- datblygu’ch sgiliau o ran ymdrin â phobl
- cael boddhad o’ch swydd drwy wneud gwahaniaeth yn eich cymuned
- gweld sut mae’ch rôl yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i blismona lleol
Y rhinweddau fydd eu hangen arnoch
Yn Heddlu Dyfed-Powys, rydym wedi gosod safonau uchel ar ein cyfer, a bydd disgwyl i chi fodloni’r safonau hyn. Bydd angen i chi fod ag ymagwedd gyfrifol gyda phrofiad o:
- wasanaethu’r cyhoedd
- ymdrin â datrys gwrthdaro
- datrys problemau a gwneud penderfyniadau
- cyfathrebu’n glir ac effeithiol
Yn ogystal â’r sgiliau hyn, bydd angen i chi fod yn hynod hyblyg a hunan-gymhellol. Byddwch chi’n gweithredu â gonestrwydd, amhleidioldeb a phroffesiynoldeb, gan gymryd balchder yn eich gwaith a chyflwyno delwedd gadarnhaol i eraill. Oherwydd natur y gwaith, bydd angen i chi hefyd fod yn gorfforol ffit ac yn medru llwyddo yn y prawf ffitrwydd angenrheidiol sy’n gysylltiedig â’r swydd.
Hyfforddi a Datblygu
Bydd ein hyfforddwr SCCH penodol yn darparu’r hyfforddiant cychwynnol. Yr ydym yn cynnig amserlen cyffroes o gyrsiau/cyflwyniadau a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich rôl fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Cwrs a gynhelir mewn dosbarth yw’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol, a fydd yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 14 wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Bydd angen i chi gyflawni hunan-astudiaeth yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Bydd asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig ffurfiol drwy gydol y cwrs.
Yn ystod yr hyfforddiant cychwynnol 14 wythnos, byddwch chi hefyd yn treulio wythnos gyda’ch Tîm Plismona Bro yn eich gorsaf heddlu rhanbarthol.
Pan mae swyddogion sy’n fyfyrwyr yn hyfforddi, mae llety ar gael ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n byw dros 30 milltir i ffwrdd o Bencadlys yr Heddlu. Yn anffodus, oherwydd yr holl ddysgu sydd angen, does dim hyblygrwydd i fethu diwrnod, felly cadwch hyn mewn cof wrth wneud cais ar gyfer y rôl.
Unwaith y bydd eich hyfforddiant cychwynnol wedi’i gwblhau, byddwch yn patrolio gyda SCCH profiadol sy’n fentor fel rhan o’r cyfnod tiwtora 8 wythnos i’ch datblygu fel SCCH. Bydd eich mentor yn rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad ichi wrth ichi symud o’r ystafell ddosbarth i’r gweithle.
Fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, bydd gennych fynediad at Broffil Datblygu ac Asesu’r Heddlu hefyd. System yw hon a luniwyd i fonitro a chofnodi’r gwaith da yr ydych yn ei wneud.