Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ceir manylion am ein meini prawf Cymhwysedd yn llawn yr adran 'Ydw i'n gymwys'. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydym wedi’u hateb, mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Am ragor o wybodaeth, gweler adran 'Y Broses Recriwtio' ar ein gwefan.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau dau brawf (ni waeth beth fo’i gymwysterau), sef prawf Barnu Sefyllfa a Holiadur Ymddygiad. Rhaid llwyddo yn y ddau ohonynt er mwyn parhau â’r broses ymgeisio. Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 na’r uchod, rhaid i chi hefyd lwyddo mewn prawf seicometrig. Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd ar Lefel 3. Cewch yr ymarfer y profion hyn cyn gwneud cais fan hyn.
Os byddwch yn llwyddo yn y profion uchod, ond yn methu mewn rhan o’r broses recriwtio, ni fydd angen i chi ailsefyll y profion hyn eto os byddwch am wneud cais eto.
Yn syml, gallwch. Mae plismona yn rôl gyffrous a heriol, ond nid yw at ddant pawb. Fodd bynnag, gofynnwn i holl ddarpar swyddogion yr heddlu ystyried yr heriau hyn a’u haddasrwydd yn llawn cyn cyflwyno eu cais.
Os byddwch yn methu ar unrhyw adeg o’r broses, bydd yr heddlu yn rhoi gwybod i chi. Mewn achosion lle na fydd yn bosibl i chi ailsefyll, gallwch wneud cais arall o fewn chwe mis i gael gwybod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau.
Os ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd, rhowch wybod inni am y math o addasiadau a allai fod angen arnoch i’ch cynorthwyo i gymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio gwneud yr addasiadau rhesymol sydd angen lle bo modd.
Efallai y cewch dal ymuno â’r gwasanaeth heddlu os oes gennych rybuddion/euogfarnau mân, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn eich gwneud yn anghymwys.
Nid yw tatŵau yn eich atal rhag cael eich penodi. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall rhai tatŵs beri tramgwydd i’r cyhoedd neu gydweithwyr, neu ddwyn anfri ar Wasanaeth yr Heddlu. Am wybodaeth lawn, cyfeiriwch at yr adran ‘Ydw I’n Gymwys?’
Os fyddwch chi’n llwyddo i gyrraedd cam archwiliad meddygol y broses recriwtio, bydd angen ichi gael prawf llygaid. Rhaid bod gan recriwtiaid newydd olwg 6/12 o leiaf yn eu llygad dde neu chwith, neu olwg 6/6 o leiaf yn y ddwy lygad. Rhaid bod gan bobl sy’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd olwg 6/36 o leiaf yn y ddwy lygad heb wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.
Bydd statws ariannol ymgeiswyr yn cael ei wirio. Cynhelir y gwiriadau hyn gan fod mynediad gan swyddogion/staff heddlu at wybodaeth freintiedig a allai eu gwneud yn agored i lygredigaeth.
Gwrthodir ymgeiswyr â dyfarniadau Llys Sirol heb eu talu neu sydd wedi’u cofrestru’n fethdalwyr gyda dyledion sydd heb eu talu.
Gallwch wneud cais o hyd ar gyfer Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) ond bydd angen i chi gwblhau prawf ar-lein sy’n mesur eich gallu academaidd. Cewch yr ymarfer y profion hyn cyn gwneud cais fan hyn
Nid oes angen cymhwyster CKP arnoch i wneud cais, ond caiff ei ystyried yn gymhwyster Lefel 3 ac felly os ydych eisoes yn meddu arno, gallwch ei ddefnyddio fel y cymhwyster Lefel 3 sydd ei angen arnoch i wneud cais.
Gallwch, ond bydd y gofynion cymhwysedd ar gyfer y llwybr Prentisiaeth yn gymwys o hyd. Cewch yr ymarfer y profion hyn cyn gwneud cais fan hyn
Fel prentis sydd wedi cofrestru ar gyfer Prentisiaethau Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) bydd eich cyfnod prawf yn para am 3 blynedd. Ar ôl cael eich penodi, byddwch yn cychwyn ar raglen dysgu gychwynnol o 6 mis yng ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed Powys. Byddwch hefyd yn ymgymryd â chyfnod tiwtora o 12 wythnos yn y gymuned, lle y bydd disgwyl i chi gyflawni statws patrôl annibynnol. Ar gyfer gweddill y cyfnod prawf, byddwch yn cyflawni dyletswyddau gweithredol yn y gweithlu yn casglu tystiolaeth o gymhwysedd galwedigaethol. Bydd hefyd gofyn i chi ymgymryd â’r elfennau academaidd a neilltuir i chi gan brifysgol partner. Ar ôl cwblhau’r elfennau ymarferol ac academaidd yn llwyddiannus, caiff eich rheng ei chadarnhau.
Ni chewch gymryd gwyliau blynyddol yn ystod 6 mis cyntaf y rhaglen hyfforddi
Fel Deiliad Gradd, bydd eich cyfnod prawf yn para am 2 flynedd. Ar ôl cael eich penodi, byddwch yn cychwyn ar raglen dysgu gychwynnol o 6 mis yng ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed Powys. Byddwch yn cwblhau cyfnod tiwtora o 12 wythnos yn y gymuned, lle y bydd disgwyl i chi gyflawni statws patrôl annibynnol. Ar gyfer gweddill y cyfnod prawf, byddwch yn cyflawni dyletswyddau gweithredol yn y gweithlu yn casglu tystiolaeth o gymhwysedd galwedigaethol. Bydd hefyd gofyn i chi ymgymryd â’r elfennau academaidd a neilltuir i chi gan brifysgol partner. Ar ôl cwblhau’r elfennau ymarferol ac academaidd yn llwyddiannus, caiff eich rheng ei chadarnhau.
Ni chewch gymryd gwyliau blynyddol yn ystod 6 mis cyntaf y rhaglen hyfforddi
Mae hyn oherwydd yr amrywiaeth yn y gofynion academaidd.
Cewch. Mae’r Heddlu a’r Brifysgol wedi cyfrifo’r amser sydd ei angen arnoch i gwblhau pob elfen o’r cymhwyster a chaiff hyn ei gynnwys ar y rota ar gyfer eich patrwm sifft.
Caiff pob sesiwn a gyflwynir yn bersonol ei chynnal ar safleoedd yr heddlu yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Cynhelir hunanastudiaeth a dysgu ar-lein o bell.
Bydd myfyrwyr yn cael deunyddiau dysgu gan Heddlu Dyfed-Powys a’r Brifysgol partner am ddim.
Byddwch yn derbyn cymorth llawn yn ystod eich cyfnod prawf, ond os byddwch yn methu â chyrraedd y safon ofynnol, ni fydd disgwyl i chi dalu unrhyw gostau yr eir iddynt yn ôl.
Bydd eich llythyr cynnig diamod yn dweud wrthych ba orsaf fyddwch chi’n gweithio ohoni. Os oes gennych hoffter, cewch ddweud wrth y tîm recriwtio, ond mae hyn yn dibynnu ar gapasiti’r tîm plismona yr ydych wedi gofyn am gael ymuno ag ef.
Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio drwy anfon e-bost at [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau.