Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Does yna ddim diwrnod arferol fel Cwnstabl Heddlu. Mae pob diwrnod wahanol ac yn cyflwyno heriau newydd, a chyfleoedd i wella bywydau pobl yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fel Swyddog Heddlu Dyfed-Powys, byddwch:
Yn ystod eich cyfnod prawf, byddwch yn ymgymryd â rôl swyddog mewn lifrai. Ni chewch arbenigo nes ichi lwyddo i gwblhau eich cyfnod prawf a chael eich ystyried yn gymwys i wneud y gwaith.
Byddwch fel arfer yn gweithio am 40 awr yr wythnos ar system sifft, sy'n cynnwys nosweithiau, penwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Ar ôl cael eich cyflogi am 26 wythnos, byddwch chi’n gymwys i wneud cais i weithio oriau hyblyg neu weithio rhan amser. Os yw’ch cais yn cael ei gymeradwyo, bydd eich cyfnod prawf yn cael ei estyn er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad yn eich oriau.
Byddwch yn treulio llawer o’ch amser yr awyr agored, ar droed neu mewn car heddlu. Bydd gennych rai dyletswyddau dan do, er enghraifft, yng ngorsaf yr heddlu, yn y llysoedd, neu mewn lleoliadau preifat neu leoliadau busnes. Fodd bynnag, y flaenoriaeth yw plismona amlwg ac ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymateb i’w hanghenion.
Byddwch yn treulio’r ddwy flynedd gyntaf fel swyddog heddlu sy’n fyfyriwr (neu ar brawf).Bydd eich cyfnod hyfforddi cychwynnol ym Mhencadlys yr Heddlu’n cael ei gyflwyno gan dîm hyfforddi penodol am 26 wythnos. Dilynir hyn gan diwtoriaeth yn eich rhanbarth penodedig.
Mae'r cyfnod hwn yn rhan o Raglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu, a gynlluniwyd i’ch arfogi’n llawn yn eich rôl fel cwnstabl heddlu. Mae'r rhaglen yn cwmpasu llawer o agweddau, megis sgiliau plismona, deddfwriaethau, dulliau ymchwilio, gweithio mewn partneriaeth gymunedol, plismona digidol, plismona ar sail tystiolaeth, plismona’r ffyrdd a llawer mwy, a bydd y rhaglen yn awr yn cynnwys elfen academaidd a gefnogir drwy Brifysgol De Cymru.
Byddwch yn cael eich cefnogi a’ch datblygu drwy gydol y cyfnod prawf, a bydd eich sgiliau a'ch gwybodaeth yn cael eu hasesu’n barhaus yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus, bydd rheng cwnstabl heddlu yn cael ei dyfarnu i chi a byddwch chi’n derbyn Gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol neu Ddiploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Ar ôl dod yn gwnstabl heddlu, gallech gyflwyno cais i arbenigo mewn nifer o feysydd. Mae proses gais fewnol ar gyfer unedau arbenigol ac mae cystadleuaeth gref fel arfer ar gyfer lleoedd. Mae meysydd arbenigol yn cynnwys:
Fel Swyddog Heddlu, bydd gennych fynediad at Broffil Datblygu ac Asesu’r Heddlu hefyd. System yw hon a luniwyd i fonitro a chofnodi’r gwaith da yr ydych yn ei wneud.
I ddod yn swyddog heddlu bydd angen i chi feddu ar y canlynol: