Mae ymuno â ni yn Heddlu Dyfed-Powys yn golygu y bydd gennych fynediad at amrediad eang o fanteision a chymorth.
- Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch chi’n gweithio tuag at gymhwyster lefel gradd. Byddwch chi’n derbyn y radd hon pan fyddwch chi wedi’ch cadarnhau fel cwnstabl heddlu. Byddwch chi’n cael eich talu wrth ddysgu!
- Byddwch chi’n derbyn cyflog cychwynnol o £29,907, sy'n codi i £31,164 ar ôl 12 mis mewn rôl. Os fyddwch chi’n parhau â’ch gwasanaeth ar reng cwnstabl, bydd hyn yn codi yn y pen draw i’r uchafswm o £48,231.
- Mae recriwtiaid newydd yn derbyn 22 diwrnod o wyliau blynyddol. Mae cyfleoedd i weithio goramser, a gallwch gael eich talu neu dderbyn hynny fel amser bant o’r gwaith.
- Darperir llety yn ystod hyfforddiant os ydych chi’n teithio mwy na 30 milltir o’ch cyfeiriad cartref i’n pencadlys yng Nghaerfyrddin.
- Bydd myfyrwyr preswyl yn derbyn brecwast, cinio a phryd o bwyd gyda’r nos.
- Byddwch chi’n gweithio patrwm sifft pendant i gychwyn, ond unwaith y byddwch chi wedi cwblhau 26 wythnos o wasanaeth, byddwch chi’n gymwys i wneud cais ar gyfer oriau gweithio hyblyg.
- Drwy gydol eich gwasanaeth, byddwch chi’n gymwys i fod yn aelod o gynllun pensiwn yr heddlu.
- Bydd gennych fynediad at gymorth gan y Ffederasiwn Heddlu, y corff cynrychioladol ar gyfer swyddogion heddlu ar draws y DU.
- Rydyn ni’n cynnig amrediad llawn o Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol, gan gynnwys sgrinio meddygol, brechu, ffisiotherapi, a gwasanaethau cwnsela. Bydd gennych fynediad 24/7 at CareFirst, rhaglen gymorth ar gyfer gweithwyr.
- Byddwch chi’n ymuno â’n cynllun buddion ar gyfer staff, sy’n cynnig gostyngiadau ar gyfer amryw o siopau ar y stryd fawr ac ar-lein. Hefyd, tra’ch bod chi wedi cofrestru gyda’n partner Prifysgol ac yn astudio ar gyfer eich cymhwyster gradd, byddwch chi’n gymwys ar gyfer cynlluniau gostyngiadau myfyrwyr.
- Mae ein Cymdeithas Chwaraeon a Hamdden yn cynnig mynediad i nifer o gampfeydd ar safleoedd heddlu ledled ardal Dyfed-Powys. Hefyd, mae cyfle i chi’n cynrychioli ni mewn amryw o chwaraeon, o bêl droed a rygbi, i achub bywyd a thriathlon.
- Cymorth a chyngor gan ein Cymdeithasau Staff a’n Rhwydweithiau Cymorth, sy’n cynnwys y canlynol: y Rhwydwaith Cefnogi Gallu, y Gymdeithas Heddlu Cristnogol, y Rhwydwaith Cefnogi Staff Benywaidd, y Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Cefnogi Staff o Leiafrifoedd Ethnig.
Heblaw’r manteision anhygoel hyn, mae llawer mwy o fanteision i fod yn Swyddog Heddlu!