Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I wneud cais am swydd cwnstabl heddlu:
Cymwysterau lefel 3 sy'n dderbyniol:
Noder: Bydd angen i gyrff dyfarnu fel AQA, Active IQ, rhwydwaith NCAB, CILEx, CISI, City & Guilds, LRN, IMI, NCAB, OCN, OCR, Edexcel, LCCI fod ar dystysgrif lefel 3 a Diploma lefel 3 mewn unrhyw bwnc
Os nad oes gennych chwant lefel 3, gallwch ymgymryd â prawf addasrwydd academaidd fel rhan o'r broses ymgeisio.
Os ydych chi wedi gwneud cais i ymuno ag unrhyw wasanaeth heddlu yng Nghymru neu Lloegr o fewn y 6 mis diwethaf, ac fe wrthodwyd eich cais, ni chewch gyflwyno ffurflen gais newydd.
Rydych yn gymwys i ymgeisio i fwy nag un heddlu ar y tro fodd bynnag; dim ond gydag UN heddlu y gallwch gyflawni’r broses Ganolfan Asesu. Yn sgil hynny, yr heddlu hwn fydd eich heddlu DEWISOL oni bai eich bod yn dewis tynnu’n ôl a throsglwyddo eich sgôr i heddlu arall.
Bydd angen trwydded yrru lawn arnoch er mwyn ymuno fel Swyddog Heddlu. Bydd angen i chi basio Prawf Gyrru’r Heddlu yn ystod eich cyfnod prawf.
Nid yw tatŵs yn eich atal rhag cael eich penodi. Fodd bynnag, gallai rhai tatŵs beri tramgwydd i’r cyhoedd neu i gydweithwyr o bosibl, neu gallent ddwyn anfri ar Wasanaeth yr Heddlu.
Nid yw tatŵs yn dderbyniol os ydynt: yn tanseilio urddas ac awdurdod y swyddog heddlu; yn gallu tramgwyddo aelodau o'r cyhoedd neu gydweithwyr a/neu gythruddo pobl eraill; yn llachar neu’n niferus neu’n arbennig o amlwg; yn dangos agweddau annerbyniol tuag at fenywod, grwpiau lleiafrifol neu unrhyw ran arall o'r gymuned; yn dangos ymochredd â grŵp penodol a allai beri tramgwydd i’r cyhoedd neu i gydweithwyr; neu’n cael eu hystyried yn wahaniaethol, yn anghwrtais, yn anweddus, yn amrwd, yn hiliol, yn rhywiaethol, yn sectyddol, yn homoffobig, yn dreisgar neu’n fygythiol.
Rhaid bod ymgeiswyr yn medru ymgymryd â’r dyletswyddau gofynnol yn effeithiol yn gorfforol ac yn feddyliol. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn prawf meddygol a llwyddo mewn prawf ffitrwydd.
Gall plismona fod yn gorfforol heriol, felly bydd angen ichi fod mewn cyflwr corfforol da er mwyn llwyddo yn y prawf ffitrwydd. Fel rhan o’r broses recriwtio, cewch eich profi er mwyn sicrhau bod eich lefelau ffitrwydd ddigon uchel. Mae’n brawf trylwyr, ond peidiwch â phoeni, nid oes rhaid ichi fod yn eithriadol o ffit. Yr ydym ond eisiau sicrhau bod gennych chi’r gallu corfforol i gyflawni’ch dyletswyddau.
Os na fyddwch chi’n bodloni’r safon y tro cyntaf ichi sefyll y prawf, cewch ei gymryd eto hyd at 3 gwaith, gyda 6 wythnos rhwng pob ymgais er mwyn ichi ddatblygu a gwella.
Oherwydd natur gwaith yr heddlu, mae iechyd a ffitrwydd da yn bwysig dros ben. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau, a gwneir pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol os oes angen. Os byddwch yn llwyddo mewn canolfan asesu, byddwch yn cwblhau holiadur meddygol ac yn cael archwiliad meddygol a phrawf golwg.
Mae rhai cyflyrau ac anhwylderau meddygol yn medru effeithio’n andwyol ar eich gallu i gyflawni’r rôl yn effeithiol. Ystyrir pob achos yn ofalus fel rhan o’r broses feddygol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff eich ystod pwysau ei hasesu yn ystod asesiad meddygol. Mae’r ystod pwysau iach yn seiliedig ar fesuriad a elwir yn fynegai màs y corff (BMI). Gellir canfod hyn os gwyddoch beth yw eich pwysau a’ch taldra. Cyfrifir hyn drwy rannu eich pwysau (mewn cilogramau) â’ch taldra (mewn metrau sgwâr). Mae canllawiau a siartiau hawdd eu defnyddio ar gyfer cyfrifo eich BMI ar gael ar wefan y GIG. Mae’r GIG yn cynghori bod BMI rhwng 18.5 a 24.9 yn awgrymu pwysau iach normal. Golyga hyn nad yw eich corff mewn perygl o ddioddef clefydau sy’n gysylltiedig â phwysau. Mae’r Swyddfa Gartref yn gosod safonau BMI ar gyfer swyddogion yr heddlu. Mae cylchlythyr 59/2004 cyfredol y Swyddfa Gartref yn nodi bod hyn rhwng 18 a 30. Os nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon hon, efallai y bydd cais yn cael ei ohirio neu ni chânt eu penodi.
Gwneir pwysigrwydd gonestrwydd ac unplygrwydd yn glir drwy gydol ein proses ymgeisio. Mae Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn ddarostyngedig i’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol sy’n nodi’n glir yr hyn y gall cymunedau ddisgwyl gan eu swyddogion.
Oherwydd natur plismona, mae’n hollbwysig ein bod ni’n cynnal gwiriadau fetio trylwyr ar ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant ymuno â Heddlu Dyfed-Powys. Gan hynny, RHAID i ymgeiswyr ddatgan:
Fel arfer, dylai pobl sy’n ymgeisio ar gyfer y gwasanaeth heddlu fod yn rhydd rhag rhwymedigaethau neu ddyledion heb eu talu ac yn medru rheoli unrhyw fenthyciadau sydd ganddynt. Dylai’r pwyslais fod ar reoli dyledion yn synhwyrol.
Pan amheuir fod unigolyn wedi methu â datgan gwybodaeth, cynhelir ymholiadau er mwyn pennu pa un ai a yw’r unigolyn wedi methu â datgelu’r wybodaeth hon yn fwriadol. Os felly, bydd y cais yn cael ei wrthod.
Cyflwynwyd deddfwriaeth sy’n mynnu bod ymgeiswyr ar gyfer swydd CwnstaHeddlu yn ymgymryd â fetio biometrig. Cyfeiriwch at gylchlythyr 03/2012 yr Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona. Gellir ei ddarllen ar wefan y Coleg Plismona. Golyga hyn y byddwn yn gofyn ichi arwyddo ffurflen ganiatâd er mwyn cymryd eich olion bysedd a sampl o’ch DNA ar gyfer dibenion chwiliad sbeciannol a chadw’ch olion bysedd a’ch proffil DNA ar y Gronfa Ddata Er Dileu’r Heddlu.
Ceisir olion bysedd a samplau DNA er mwyn caniatáu ar gyfer cynnal chwiliad sbeciannol yn erbyn y cronfeydd data lleol a chenedlaethol cyn eich penodi i’r gwasanaeth heddlu. Mae hyn er mwy sicrhau nad ydych wedi dod i sylw’r heddlu mewn ffordd negyddol a heb ddweud wrthym, ac nad ydych yn gysylltiedig ag unrhyw droseddau sydd heb eu datrys eto. Byddwn yn gofyn ichi gymryd y profion hyn pan fyddwn wedi cynnig swydd amodol ichi.
Ni dderbynnir ceisiadau gan aelodau o'r lluoedd arfog oni bai bod gennych 12 mis neu lai ar ôl i wasanaethu. Y Prif Swyddog fydd yn penderfynu pa un ai a fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael aros ar y Rhestr Wrth Gefn. Ni chyflwynir ymholiadau i'ch cyflogwr presennol hyd nes y cewch eich argymell ar gyfer penodiad, neu os ydych wedi cytuno i adael i ni gysylltu â nhw yn syth.
Gall gymryd peth amser i gwblhau’r cylch Recriwtio Cwnstabliaid Heddlu. Ar ddiwedd pob cam o’r broses recriwtio a dethol, cewch wybod pa un ai a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, a gan hynny, yn gymwys i symud ymlaen at y cam nesaf.