Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os felly, mae gennym lwybr mynediad newydd i blismona sy'n rhoi ffordd i unigolion dawnus a medrus â ‘meddylfryd ymchwilio’ ymuno â ni ac yna symud ymlaen at lwybr ditectif.
Byddwch yn ymuno â ni ynghyd â swyddogion heddlu eraill i gwblhau ein rhaglen hyfforddi 28 wythnos, a bydd hyn yn rhoi'r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol i chi ddod yn swyddog heddlu effeithiol.
Yn ystod sawl rhan o'ch hyfforddiant cychwynnol, byddwch yn elwa ar fewnbwn gan hyfforddwyr ditectif i helpu i ddatblygu eich meddylfryd ymchwilio.
Bydd angen y cymwyseddau a’r gwerthoedd gofynnol arnoch i ddod yn dditectif, a bydd angen i chi arddangos y rhinweddau canlynol:
Mae ditectifs yn gyfrifol am ymchwilio i'r troseddau mwyaf difrifol a chymhleth ac maent yn rheoli ystod o ymchwiliadau hyd at eu cwblhau.
Mae'n wir, gall y rôl fod yn heriol a bydd angen i chi fod yn wydn, ond mae'n un o'r swyddi mwyaf gwerth chweil sydd ar gael.
Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol o ymgeiswyr i ymuno â Heddlu Dyfed–Powys – pobl sydd â'r priodoleddau a'r ymroddiad i ddod yn dditectif.
Y Daith
Mae rhaglen y llwybr ditectif yn para am ddwy flynedd.
Yn dilyn eich 28 wythnos o hyfforddiant cychwynnol yn y pencadlys, byddwch wedyn yn ymuno â thiwtor sy’n gwnstabl ymateb mewn lifrai i brofi plismona mewn lifrai am 12 wythnos a rhoi eich holl hyfforddiant ar waith.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous lle byddwch yn dysgu holl hanfodion plismona ac yn profi ystod eang o ddigwyddiadau gyda chymorth a chefnogaeth tiwtor sy’n gwnstabl profiadol.
Byddwch yn gweithio'r un shifftiau dros y cyfnod llawn o 24 awr ac, yn dilyn tiwtoriaeth lwyddiannus, bydd gennych amser i gydgrynhoi hyn a gweithio ar eich pen eich hun fel swyddog ymateb am weddill y flwyddyn gyntaf hon.
Mae hwn yn amser hollbwysig i dditectif gan y bydd angen i chi ddeall y mathau o droseddau y byddwch yn delio â nhw, sut maen nhw'n dechrau, cymhelliant y troseddwyr, sut mae rheoli lleoliad, a gweithio gyda chydweithwyr a derbyn trosglwyddiadau wrthynt.
Ar ddechrau eich ail flwyddyn, byddwch yn dechrau eich rôl fel ymchwilydd dan hyfforddiant yn swyddfa eich adran ymchwilio i droseddau ac yn gweithio tuag at eich achrediad fel ditectif, wrth hefyd gwblhau eich Diploma Ôl-raddedig Lefel 6 mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Bydd angen i chi hefyd gwblhau'r Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol a Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 yn llwyddiannus i gael eich achredu yn ystod yr ail flwyddyn hon.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae'r rhaglen yn un dwysach gan fod eich dysgu wedi’i strwythuro tuag at y safbwynt ymchwilio hwnnw; fodd bynnag, ar ddiwedd eich ail flynedd, byddwch yn dod yn dditectif gwnstabl achrededig llawn.
Yn ystod yr ail flwyddyn hon, byddwch yn gweithio gyda mentor sy’n dditectif achrededig a'ch ditectif ringyll, a fydd yn eich cefnogi'n llawn.
Ar ôl Blwyddyn 2
Yn dilyn eich achrediad, mae'r drws yn agor ar gyfer llu o opsiynau i arbenigo yn y maes ditectif.
Gallwch ddewis gwneud cais am gyrsiau arbenigol er mwyn dod yn swyddog cyswllt teuluol, swyddog hyfforddedig troseddau rhyw ac arbenigwr mewn cyfweld rhai a ddrwgdybir, ymhlith ychydig.
Mae timau eraill o fewn yr heddlu yn cynnwys y canlynol y gallech fod â diddordeb ynddynt:-
Mae cyfle hefyd i fynd at ein partneriaid rhanbarthol megis timau troseddau cyfundrefnol a therfysgaeth.
Mae eich proses ymgeisio ar gyfer rôl ditectif yr un fath â swyddogion mewn lifrai, ond byddwch yn cael eich asesu gan ganolbwyntio ar gymwyseddau ditectif.
Y rôl
Fel ditectif, byddwch yn gweithio ar amrywiaeth eang o droseddau, gan gynnwys achosion difrifol a chymhleth, ac yn cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae gyrfa ditectif yn amrywiol a dim ond y gwobrau sy'n cyfateb i heriau'r rôl, sef canfod trosedd a chefnogi pobl ardal Heddlu Dyfed–Powys.
Mae'r meysydd gwaith yn cynnwys:
Mae'r rhaglen hon yn rhoi llwybr carlam i'r rhai sy'n ymuno o'r newydd drwy fodiwlau plismona craidd cyn dechrau ar hyfforddiant ymchwilio uwch a symud i rôl ymchwilydd dan hyfforddiant.
Rhaglen yn seiliedig ar waith yw hon, a gefnogir gan ddysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddilyn Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Cenedlaethol 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymchwilwyr dan hyfforddiant basio'r Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol, sef arholiad sydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth a dealltwriaeth gywir o'r gyfraith a gweithdrefnau perthnasol, a sut i’w cymhwyso, i berfformio'n effeithiol fel ditectif.
Unwaith y bydd ymgeiswyr wedi llwyddo yn yr arholiad hwn, byddant yn cwblhau cwrs/cyrsiau hyfforddi Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio 2 ac yn parhau i weithio tuag at ddod yn dditectif gwnstabl achrededig parhaol.
Mae'r rhaglen hon yn arwain at Ddiploma Graddedig mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Y broses ymgeisio
Rydym yn gwerthfawrogi y gall y broses ymgeisio fod yn hir ac y bydd yn cymryd sawl mis. Fodd bynnag, y dull trwyadl hwn sy'n sicrhau ein bod yn dewis pobl a fydd yn gwneud ditectifs gwych.
Edrychwch ar y fideo isod gan Dditectif Ringyll Dale Scriven, sy'n rhedeg y rhaglen yn Heddlu Dyfed–Powys, am ragor o wybodaeth.