Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys, gyda chymorth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi derbyn bron hanner miliwn o bunnoedd ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled yr ardal heddlu mewn ymateb pwrpasol a elwir yn Ymgyrch Ivydene.
Drwy Ymgyrch Ivydene, bydd deg ardal – sydd wedi’u nodi’n fannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol – yn derbyn 11,000 o oriau ychwanegol o batrolau heddlu dros yr wyth mis nesaf.
“Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith difrifol ar ansawdd bywyd pobl sydd eisiau mynd o gwmpas eu bywydau bob dydd.
“Mae’r mannau problemus hyn wedi’u dewis fel yr ardaloedd sy’n profi’r lefelau trais a throseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol uchaf ac yn seiliedig ar gudd-wybodaeth leol.
“Mae’r patrolau hyn yn anelu i roi tawelwch meddwl drwy fod yn bresennol er mwyn helpu pobl i deimlo’n ddiogel, gan aflonyddu ar droseddau’n rhagweithiol a’u hatal hefyd.”
“Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith ddirfawr ar ei ddioddefwyr, ac mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach.
“Er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae angen arloesedd, partneriaethau cryf rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf. Mae’r mentrau hyn sy’n ymwneud ag ardaloedd â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn anelu i gyflawni hynny.”
Bydd y patrolau’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd canlynol:
Sir Caerfyrddin |
Tyisha Elli / Canol tref Llanelli Canol tref Caerfyrddin Rhydaman |
Ceredigion |
Aberystwyth Aberaeron |
Sir Benfro |
Canol tref Hwlffordd Canol tref Dinbych-y-Pysgod |
Powys |
Dwyrain y Drenewydd Aberhonddu |
Dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgwch fwy am sut rydym yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.