Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bwriad Cyfraith Clare yw rhoi gwybodaeth i chi am eich cymar presennol neu eich cyn-gymar ynghylch a oedd ganddynt hanes o drais a throseddu camdriniol a allai achosi risg i chi. Mae Cyfraith Clare hefyd yn cael ei hadnabod fel y Cynllun Datgelu Trais Domestig.
Gall trydydd parti - aelod o’r teulu, ffrind, cydweithiwr neu gymydog hefyd wneud cais am ddatgeliad er mwyn diogelu rhywun maent yn credu eu bod mewn perygl oherwydd eu cymar. Mae’r cynllun hwn, a lansiwyd yn 2014, wedi ei enwi ar ôl Clare Wood, a lofruddiwyd gan ei chyn-gymar ym Manceinion Fwyaf yn 2009.
Gall Ddatgeliad Trais Domestig ddarparu gwybodaeth â’r potensial i achub bywyd er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch parhau yn y berthynas y maent ynddi.
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein syml er mwyn gwneud cais am Ddatgeliad Trais Domestig.
Deallwn nad yw pawb eisiau siarad â’r heddlu. Yn hytrach, mae sawl asiantaeth cymorth gallwch chi siarad â nhw:
Sir Gaerfyrddin
• Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin - 01267 238410 (Caerfyrddin)
• Gwasanaeth Cam-drin Domestig Threshold - 01554 752422 (Llanelli)
• Gwasanaeth Trais Domestig Calan - 01269 597474 (Rhydaman)
Sir Benfro
• Cam-drin Domestig Sir Benfro - 01554 752422
Ceredigion
• Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru - 01970 625585 / 01239 615385
Powys
• Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn - 01686 629114
• Gwasanaeth Trais Domestig Calan - 01874 625146
Cymorth Cenedlaethol
• Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig – 0800 200 0247
• Llinell Gymorth Byw Heb Ofn - 0808 80 10 800
• Llinell Gyngor i Ddynion – 0808 801 0327
• Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio – 0808 802 0300
• Respect – 0808 802 4040
• Gwasanaeth Paladin: Gwasanaeth Eirioli Cenedlaethol Stelcio –
www.paladinservice.co.uk neu 020 3866 4107