Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bwriad y Rhaglen CHOICES yw i herio credoau, agweddau ac ymddygiad dynion
dros 18 oed sy’n gwneud unrhyw fath o gamdriniaeth ddomestig. Mae’n gweithredu o few yr ardal a gweinir gan Heddlu Dyfed-Powys.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected]
198KB
1,125KB
273KB
Mae’r Ganolfan Ymyrraeth ar agor i ddynion a menywod yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy’n arddangos/poeni am eu hymddygiad tuag at eu partner presennol neu gyn-bartner neu anwylyn.
Rhaglen ymyrraeth ar-lein sy’n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yw’r rhaglen hon. Mae’n cefnogi unigolion i fynd i’r afael â meddyliau ac ymddygiad problemus.
Drwy ddysgu ar-lein (10 sesiwn) ac adolygiadau sesiwn gyda hwylusydd, gall y dynion archwilio:
Drwy ddysgu ar-lein (10 sesiwn) ac adolygiadau sesiwn gyda hwylusydd, gall y menywod archwilio:
Beth yw cefndir y Ganolfan Cam-drin Domestig?
Datblygwyd y Ganolfan Ymyrraeth gan dîm o weithwyr prawf proffesiynol mewn ymgynghoriad â Seicolegydd Clinigol. Mae ein rhaglenni’n seiliedig ar ddefnyddio Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yn bennaf, ond maen nhw hefyd yn cynnwys modelau damcaniaethol eraill, gan gynnwys:
Sut ydw i’n cyfeirio neu’n cael cymorth?
Os ydych chi’n wryw neu benyw sy’n byw yng Nghanolbarth neu Orllewin Cymru a hoffech gael mynediad i’r rhaglen newid ymddygiad ar-lein hon, galwch 01639 794448 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sydd eisiau cyfeirio cleient, cysylltwch â’r rhaglen ar - [email protected]
Ar gyfer y rhai y nodwyd eu bod yn cymryd rhan mewn ymddygiad stelcio.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected] neu [email protected].
Mae Llinell Ffôn Respect yn llinell gymorth, e-bost a gwasanaeth gwe-sgwrs cyfrinachol ar gyfer troseddwyr cam-drin domestig a’r rhai sy’n eu cefnogi.
Rydyn ni’n cefnogi dynion a menywod sy’n cam-drin mewn perthynas o’r un rhyw neu heterorywiol, o unrhyw le yn y DU.
Mae Llinell Ffôn Respect ar gyfer pawb sy’n poeni am eu defnydd o drais a cham-drin yn erbyn eu partner, a’r rhai sy’n eu cefnogi: mae croeso i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a Staff Rheng Flaen sy’n gweithio gyda chamdrinwyr ein galw am wybodaeth a chymorth.
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i Linell Ffôn Respect.