Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi’n yrrwr sydd newydd gymhwyso ac yn mynd allan ar y ffyrdd am y tro cyntaf, mae ystadegau’n dangos eich bod chi’n fwy tebygol o lawer na gyrwyr profiadol o fod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd.
Gall goryrru, defnyddio ffôn symudol, peidio â gwisgo gwregys, gyrru heb y gofal a’r sylw dyladwy, a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau arwain at wrthdrawiadau angheuol a difrifol – a nhw yw’r achosion gwrthdrawiad angheuol yr adroddir amdanynt amlaf, sef y ‘5 Angheuol’.
Dywedodd y Rhingyll Plismona’r Ffyrdd Rob Hamer:
“Gall marwolaethau ar y ffyrdd a achosir gan y pum ymddygiad angheuol gael effaith difrifol ar y rhai sy’n gysylltiedig â’r gwrthdrawiad, yn ogystal â’u teulu a’u ffrindiau. Dewisiadau yw’r pum ymddygiad angheuol, ac os yw pawb yn dewis gyrru’n ddiogel, gwneud dewis diogel, a pheidio â mentro, gallem weld llai o drasiedïau ar ein ffyrdd.
“Mae cadw pobl yn ddiogel ar ein ffyrdd yn fater sy’n effeithio ar, ac yn cynnwys, pawb. Mae gan unigolion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ran i’w chwarae o ran helpu i hyrwyddo gyrru mwy diogel.
“Yn Nyfed-Powys, rydyn ni’n plismona dros 8500 milltir o ffyrdd. Dim ond drwy gydweithio y gallwn hyrwyddo gyrru mwy diogel ar bob un ohonynt i wella diogelwch y ffyrdd, ac yn y pen draw, helpu i achub bywydau.”
Mae defnyddwyr ffyrdd sy’n cyflawni un o’r pum trosedd angheuol yn fwy tebygol o lawer o fod yn gysylltiedig â gwrthdrawiad angheuol na’r rhai sydd ddim.
Pan mae ceir yn cael eu gyrru’n wael, gallant droi’n beiriannau angheuol. Mae gyrru heb y gofal a’r sylw dyladwy’n eich rhoi chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd mewn perygl o niwed.
Gallai enghreifftiau o yrru diofal gynnwys y canlynol:
⚠️ Goddiweddyd ar y chwith neu’r dde’n beryglus.
⚠️ Peidio â gyrru ar gyflymder priodol ar gyfer amodau’r tywydd a’r ffordd – hyd yn oed o fewn y terfyn cyflymder.
⚠️ Gwrthdyniadau megis bwyta, yfed, teithwyr yn tynnu sylw a defnyddio ffôn symudol.
⚠️ Diffyg canolbwyntio a gyrru pan fyddwch chi wedi blino.
⚠️ Gyrru’n rhy agos i’r cerbyd o’ch blaen.
⚠️ Peidio â thalu sylw i arwyddion ffyrdd, cynllun ffyrdd a chyffyrdd. Cymryd yr hawl tramwy.
⚠️ Meddiannu’r lôn ganol a symud rhwng lonydd.
⚠️ Methu â rhoi arwydd wrth newid lonydd neu wrth droi, newid lonydd yn amhriodol.
⚠️ Methu â stopio ar gyfer cerbydau brys.
Mae’n amhosibl cael alcohol allan o’ch system yn gyflym – mae’n cymryd amser. Efallai bydd cawod, dishgled o goffi neu ffyrdd eraill o ‘sobri’ yn gwneud ichi deimlo’n well, ond ni fyddant yn cael gwared ar yr alcohol o’ch system.
❌ Os ydych chi wedi bod allan yn yfed, efallai bydd alcohol dal yn effeithio arnoch drannoeth. Gallech golli’ch trwydded os fyddwch chi’n gyrru pan rydych chi dal dros y terfyn cyfreithlon.
Mae alcohol yn effeithio ar bawb yn wahanol, a gall unrhyw alcohol effeithio ar eich gallu i yrru. Yr unig ddewis diogel yw osgoi alcohol yn llwyr os ydych chi’n gyrru gan y gallai ‘un ddiod fach’ olygu’ch bod chi dros y terfyn cyfreithlon.
Os cewch eich dal yn yfed a gyrru, a/neu’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gallech dderbyn:
⚠️ cofnod troseddol
⚠️ uchafswm o chwe mis o garchar
⚠️ dirwy ddiderfyn
⚠️ gwaharddiad awtomatig rhag gyrru am flwyddyn o leiaf (tair blynedd os fyddwch chi’n cael eich euogfarnu ddwywaith mewn 10 mlynedd)
Mae gwisgo gwregys yn eich amddiffyn chi ac eraill. Mewn gwrthdrawiad, rydych chi ddwywaith fwy tebygol o farw os na fyddwch chi’n gwisgo gwregys.
Yn 2022, nid oedd 30% o ddeiliaid car 17 – 29 oed a fu farw’n gwisgo gwregys.
Yn y Deyrnas Unedig, mae’n ofyniad cyfreithiol i wisgo gwregys os oes un wedi’i osod. Dim ond rhai eithriadau sydd.
Gallwch gael dirwy o hyd at £500 am beidio â gwisgo gwregys.
Gallwch ddysgu mwy am wisgo gwregys a’r gyfraith drwy alw heibio i wefan GanBwyll.
A yw’r alwad neu’r neges destun honno wir mor bwysig â hynny? A oes wir angen ichi newid y rhestr chwarae?
Mae’n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol yn y llaw wrth yrru cerbyd modur. Gall hyd yn oed defnyddio ffôn llawrydd arwain at gosbau os ystyrir bod eich gyrru’n beryglus.
Mae gan yr heddlu hawl i’ch stopio os ydyn nhw’n credu bod eich sylw wedi’i dynnu ac nad oes gennych reolaeth dros eich cerbyd, ac fe allech gael eich erlyn.
Y mae dal yn anghyfreithlon defnyddio ffôn yn y llaw os ydych chi:
❌ Wedi stopio wrth oleuadau traffig.
❌ Yn ciwio mewn rhes o draffig.
❌ Yn goruchwylio dysgwr gyrru.
❌ Yn gyrru car sy’n diffodd yr injan pan fyddwch chi’n stopio symud.
❌ Yn dal a defnyddio dyfais sydd all-lein neu yn y modd hedfan wrth yrru’ch car.
Mae terfynau cyflymder mewn grym er diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd, ac nid targedau i’w cyrraedd neu eu torri ydynt. Mae cyfrifoldeb ar holl ddefnyddwyr y ffyrdd i yrru yn unol ag amodau’r ffordd, o fewn y terfyn cyflymder cyfreithiol, ac nid oes byth esgus dros gyflymder gormodol.
⚠️ Y gosb isaf ar gyfer goryrru yw dirwy o £100 a thri phwynt ar eich trwydded.
⚠️ Gallech gael eich gwahardd rhag gyrru os fyddwch chi’n derbyn 12 pwynt neu fwy o fewn tair blynedd.
Os ydych chi’n yrrwr newydd ac yn derbyn chwe phwynt yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl llwyddo yn eich prawf gyrru, bydd eich trwydded yn cael ei chanslo (diddymu) yn awtomatig. I’w chael yn ôl, bydd angen ichi wneud cais ar gyfer trwydded dros dro newydd a thalu amdani, a llwyddo yn eich profion ymarferol a theori eto.
Wedi gweld? Wedi tynnu llun? Anfonwch e! Porthol ar-lein yw Ymgyrch Snap lle y gallwch lanlwytho darnau ffilm o droseddau gyrru tybiedig. Mae pob un darn ffilm a gyflwynir yn cael ei wylio, a lle y dangosir trosedd traffig, cymerir camau gweithredu.
Cewch adrodd am droseddau gyrru megis:
Darganfyddwch mwy: Ymgyrch Snap