Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Menter genedlaethol yw Ymgyrch Makesafe sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod y cyhoedd cyffredinol a phobl sy’n gweithio yn y sectorau busnes yn ymwybodol o arwyddion cynnar camfanteisio ar blant ac yna’n gwybod sut i adrodd am bryderon wrth yr heddlu.
Mae tystiolaeth leol a chenedlaethol yn dangos y gall camfanteisio ar blant ddigwydd mewn gwestai, tafarndai, siopau prydau parod, a llefydd sydd â thrwydded i werthu alcohol. Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod pobl sy’n gweithio yn yr amgylcheddau hynny’n medru adnabod yr arwyddion rhybudd a bod ganddynt yr hyder i adrodd am eu pryderon wrth yr heddlu er mwyn diogelu unrhyw blant mewn perygl.
Diben Ymgyrch Makesafe yw grymuso busnesau a sefydliadau i fynd i’r afael â chamfanteisio ar blant drwy fwy o ymwybyddiaeth a hyfforddiant.
Mae’r ymgyrch yn anelu i gyflawni’r canlynol:
Lluniwyd yr ymgyrch hon i helpu perchnogion busnes a’u gweithwyr i nodi dioddefwyr posibl camfanteisio ar blant, a lle bo angen, hysbysu swyddogion heddlu fel eu bod nhw’n medru ymyrryd cyn bod unrhyw unigolyn ifanc yn cael ei niweidio.
Nid yw’n hawdd adnabod camfanteisio ar blant bob amser, ond mae arwyddion i sylwi arnyn nhw, ar gyfer busnesau a’r cyhoedd cyffredinol:
Peidiwch ag anwybyddu eich perfedd yn teimlo nad yw rhywbeth yn iawn. Os gwelwch rywbeth, dywedwch rywbeth.
Os ydych yn amau bod rhywbeth yn anghywir, rhowch wybod amdano ar-lein, ffoniwch 101, neu 999 mewn argyfwng.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu drwy fynd i Crimestoppers-uk.org
Maen nhw'n elusen annibynnol sy'n rhoi'r pŵer i bobl godi llais i atal troseddu 100% yn ddienw.
Os ydych yn pryderu y gallai person ifanc fod yn cael ei gam-drin neu ei ecsbloetio, ffoniwch 999.
6,687KB
6,538KB