Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:37 17/05/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn safle gwrthdrawiad difrifol ar yr A478 ger Llandissilio yn Sir Benfro.
Cafodd y digwyddiad ei riportio i'r heddlu am 8.35am, a bu’r gwasanaethau ambiwlans a thân hefyd yn bresennol.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car a bws yn cludo plant ysgol.
Yn anffodus bu farw gyrrwr y car yn y fan a’r lle.
Mae’r perthnasau agosaf wedi cael eu hysbysu ac yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.
Derbyniodd nifer o blant fân anafiadau a chludwyd dau i'r ysbyty mewn ambiwlans gyda'r hyn a ddisgrifir fel mân anafiadau.
Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd tra bod ymchwiliadau'n parhau.