Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Galwodd aelod o’r cyhoedd Heddlu Dyfed-Powys i ddweud bod corn y carw wedi mynd yn sownd yn y rhaff ger y Trallwng tua 3.30 o’r gloch brynhawn ddydd Sul 23 Ionawr.
Er nad yw’r heddlu fel arfer yn ymdrin â galwadau o’r fath, roedd dau aelod o Uned Plismona’r Ffyrdd ym Mhowys, sef Cwnstabl Marcus Wright a Chwnstabl Dave Wilkinson, yn yr ardal, a phenderfynodd y ddau fynd ati i ymchwilio.
“Gwelais yr alwad yn dod i fyny ar y system, a’i bod wedi’i chyfeirio i’r RSPCA,” meddai Cwnstabl Wilkinson.
“Ond fel rhai sy’n ddwl am anifeiliaid, awgrymais wrth Marcus ein bod ni’n mynd i weld pa un ai a oedd modd inni helpu’r anifail a’i atal rhag dioddef."
Gan feddu ar siswrn bach yn unig, aeth y ddau i leoliad y digwyddiad, ger Castell Powys, lle gwelsant y carw trallodus. Yr oedd yn anadlu’n drwm iawn ac roedd ewyn yn dod allan o’i geg.
Wrth iddo geisio rhedeg i ffwrdd, roedd yn cael ei godi gan y rhaff.
Methodd ymgais cychwynnol y pâr i geisio cael gafael ar y siglen raff gan fod y carw dal mewn panig, ac er eu pendantrwydd i ryddhau’r creadur, roedd yn rhaid i’r swyddogion fod yn ofalus gan fod cyrn miniog y carw mor agos i’r man lle’r oedd angen iddynt weithio.
Pan oedd y carw wedi blino rhywfaint, ceisiodd Cwnstabl Wright ei dawelu drwy grafu ei dalcen yn ysgafn tra bod Cwnstabl Wilkinson yn defnyddio’r siswrn o’u pecyn cymorth cyntaf i dorri’r rhaff.
“Roedd y carw druan yn hongian o’r gorn, ac mae’n rhaid ei fod wedi blino’n lân ac yn ofnus tu hwnt,” meddai Cwnstabl Wright.
“Yn ffodus, tawelodd yn eithaf buan, a olygai’n bod ni’n medru mynd ati i ddatod y rhaff o gwmpas ei gorn i’w ryddhau. O fewn 15 munud, roedd y carw’n rhydd, ond eisteddodd yno am ychydig er mwyn cael ei wynt yn ôl cyn rhedeg i ffwrdd.
“Fel rhai sy’n caru anifeiliaid, yr oedd yn braf gweld y carw, ac yn brofiad gwerth chweil i’r ddau ohonom.”
Roedd y swyddogion yn falch iawn eu bod nhw’n medru helpu yn yr achos hwn, ond dymunant atgoffa’r cyhoedd bod asiantaethau fel yr RSPCA yno i gynorthwyo adeg digwyddiadau o’r fath.