Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi derbyn dedfryd ohiriedig ar ôl anfon negeseuon Snapchat rhywiol eglur at swyddog heddlu cudd, ag yntau’n credu mai merch 14 oed ydoedd.
Cyfaddefodd Curtis Janman ei fod wedi cael ffantasïau am gael rhyw gyda merched rhwng 14 ac 16 oed pan gafodd ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys.
O fewn 6 awr o ddechrau sgwrs gyda ‘Brooke’ ar Snapchat, roedd y dyn 27 oed yn anfon lluniau a negeseuon rhywiol eglur ati. Gofynnodd am brofiadau rhywiol y ferch, a rhoddodd fanylion am y gweithgareddau rhywiol yr hoffai gymryd rhan ynddynt – er ei fod wedi cael gwybod mor gynnar â’r chweched neges rhwng y pâr mai plentyn ydoedd.
Yr hyn na wyddai Janman oedd ei fod, mewn gwirionedd, yn siarad gyda swyddog heddlu cudd a oedd yn gweithio fel rhan o uned troseddu trefnedig ranbarthol i sicrhau tystiolaeth yn erbyn unrhyw un a oedd yn dangos bwriad troseddol i niweidio, cam-drin neu gam-fanteisio ar blentyn.
Arweiniodd cynnwys negeseuon Janman, a oedd yn peri pryder ac a gafodd eu hanfon dros ddau ddiwrnod, at ymchwilio i’w broffil. Nodwyd ei fod yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a chyflwynwyd y wybodaeth hon i Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer datblygu ymholiadau.
Ddydd Sadwrn 11 Tachwedd, arestiwyd Janman yn ei gartref. Cyfaddefodd i’r drosedd mewn cyfweliad a chafodd ei gyhuddo o geisio cael sgwrs rywiol gyda phlentyn.
Ar Ionawr 29, dedfrydwyd ef i 12 mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd. Rhaid iddo hefyd gwblhau rhaglen achrededig 31-dydd a 30 diwrnod o adsefydlu, a rhoddwyd gorchymyn atal niwed rhywiol o bum mlynedd iddo.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl George Parker: “Yr ydym yn ddiolchgar na chafodd unrhyw blant eu heffeithio gan ymddygiad y diffynnydd yn yr achos hwn, fodd bynnag, yr oedd wir yn credu ei fod yn cael y sgyrsiau hyn o natur hynod rywiol gyda merch 14 oed, sy’n destun pryder mawr.
“Bu’r unigolyn yn fygythiad i ferched a menywod ifainc yn yr ardal leol, gan ei fod yn cyfaddef ei fod wedi cael ffantasïau am ferched tua 14 oed am ran sylweddol o’i fywyd. Nid yw wedi rhoi rheswm am y ffantasi hwn, heblaw ei fod yn ei chael yn anodd siarad â phobl o’r un oed ag ef.
“Rydym wedi dewis amlygu’r achos hwn ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel er mwyn atgoffa rhieni pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol o ba apiau mae eu plant yn eu defnyddio, a gyda phwy y maen nhw’n siarad neu’n chwarae ar-lein. Mae’r rhyngrwyd yn le gwych ar gyfer cwrdd â phobl newydd, ond yn anffodus fel y gwelsom yma, mae yna bobl ar-lein sydd â bwriad troseddol.
“Drwy’r ymchwiliad ar y cyd gan ein cydweithwyr yn yr uned troseddu trefnedig ranbarthol, yn ogystal â gwaith nifer o adrannau fan hyn yn Heddlu Dyfed-Powys, does dim dwywaith na fydd y gwaith hwn wedi diogelu pobl ifainc bregus mewn perygl o ddod i gysylltiad â Janman.”
*Mae’n bwysig fod plant a phobl ifainc yn eu harddegau’n hyderus ac yn gyfforddus i siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein, a gyda phwy maen nhw’n siarad. Os hoffech rywfaint o gymorth i ddechrau’r sgyrsiau hyn, efallai bydd y safleoedd canlynol o gymorth:
Dysgu’ch Plentyn am Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd ac Ar-lein | Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant ar gyfer sgyrsiau cyffredinol a chyngor ynghylch sut i ymateb os yw’ch plentyn wedi gweld rhywbeth sy’n gwneud iddo/iddi deimlo’n anghyfforddus.
Diogelu Plant - Get Safe Online ar gyfer cyngor a gwybodaeth sy’n seiliedig ar oed am wahanol rwydweithiau cymdeithasol a gemau.