Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio fandaliaeth ar eiddo cyhoeddus yn fy nghymdogaeth i
Sut i riportio Os nad chi yw perchennog yr eiddo a'ch bod yn riportio fandaliaeth a difrod i eiddo yn eich cymdogaeth, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Fel arall, gallwch riportio unrhyw wybodaeth sydd gennych yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111.