Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio gwybodaeth am sgam neu dwyll
Os oes gennych wybodaeth am bobl sy'n gwneud dogfennau ffug, defnyddio gwybodaeth bersonol wedi'i dwyn, cyflenwi offer a gynlluniwyd i dwyllo'r cyhoedd neu weithgareddau troseddol eraill, ffoniwch ni'n uniongyrchol ar ein rhif lle nad oes argyfwng, sef 101.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu'ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o dwyll a sut y gallwch amddiffyn eich hun, ewch i'n tudalennau cyngor twyll personol a thwyll busnes.