Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio niwsans neu sŵn uchel, parhaus
Byddem bob amser yn argymell cael gair cwrtais gyda'ch cymydog yn gyntaf achos mae’n bosibl nad ydyn nhw’n ymwybodol bod y sŵn yn creu niwsans. Ceisiwch ddod i gyfaddawd os gallwch chi.
Os na fydd hynny’n tycio, gallwch riportio cymydog i'ch cyngor lleol. Byddan nhw’n rhoi cyngor ichi ar y camau nesaf.
Os ydych chi mewn tai cymdeithasol, gall eich darparwr tai roi cymorth a chyngor ichi hefyd.