Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio pryder dros rywun sy'n cysgu allan
Mae trenau a gorsafoedd ar gau yn ystod y nos, sy'n lleihau nifer y bobl sy'n cysgu yno, ac mae staff yr orsaf fel arfer yn ymwybodol o unrhyw un sy'n cysgu ar eiddo'r orsaf.
Os ydych chi’n pryderu am les rhywun sy'n cysgu allan neu sy'n ddigartref, gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol.
Efallai yr hoffech chi hefyd ystyried cysylltu â StreetLink a all helpu i gysylltu'r person â'r gwasanaethau lleol sydd ar gael.