Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio cerbyd sy’n fy nghau i mewn i Heddlu Trafnidiaeth Prydain
Fe fydden ni bob amser yn argymell cael gair cwrtais gyda'r gyrrwr yn gyntaf, achos mae’n bosibl bod camddealltwriaeth wedi bod.
Er hynny, Os oes cerbyd arall yn eich atal rhag mynd allan o faes parcio mewn gorsaf reilffordd ac na allwch gysylltu â'r perchennog neu'r gyrrwr, cysylltwch â ni.
Cliciwch 'Dechrau’ isod i lenwi’n ffurflen ar-lein gyflym a syml. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Byddwch yn barod â’r manylion a ganlyn, os oes modd:
Byddwn yn asesu’ch adroddiad, yn cofnodi'r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu.
Byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 5 i 10 munud
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau’ i ddechrau.
Dechrau