Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio sbwriel cyffuriau
Os ydych chi wedi dod o hyd i ddeunyddiau sydd wedi’u defnyddio i gymryd cyffuriau anghyfreithlon, fel nodwyddau, chwistrellau, ffoil, swabiau, llwyau a chaniau nwy, mewn man cyhoeddus riportiwch hyn i’ch cyngor lleol.
Byddwch yn barod â’r manylion a ganlyn, os oes modd:
Sylwch: Er lles eich diogelwch personol, peidiwch â cheisio cael gwared ar y sbwriel eich hunan, rhag ofn bod yna bethau miniog neu beryglus ynghudd.