Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio tipio anghyfreithlon neu daflu sbwriel
Network Rail sy'n gyfrifol am lanhau'r ardaloedd o amgylch traciau rheilffordd. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am lanhau yn y gorsafoedd canlynol ac o'u hamgylch:
Cysylltwch â Network Rail i riportio sbwriel yn y mannau hyn.
Mae pob gorsaf reilffordd arall yn cael ei rheoli gan gwmnïau trenau: cysylltwch â nhw'n uniongyrchol i riportio sbwriel. I weld pwy sy'n gyfrifol am orsaf ac i gael manylion y cwmni trenau, ewch i Ymholiadau National Rail.
I riportio sbwriel mewn mannau eraill, cysylltwch â’ch cyngor lleol.