Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda’r rhan fwyaf o droseddau, rhywbeth sydd gan y dioddefwr yn ei feddiant neu dan ei reolaeth sy’n ysgogi’r troseddwr i gyflawni’r drosedd. Gyda throsedd casineb ‘pwy’ yw’r dioddefwr, neu ‘beth’ yw’r dioddefwr yng ngolwg y troseddwr yw’r hyn sy’n ei ysgogi i gyflawni’r drosedd.
Diffinnir trosedd casineb fel ‘Unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw unigolyn arall yn ystyried ei bod wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar ei hil neu hil ganfyddedig; crefydd neu grefydd canfyddedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig; anabledd neu anabledd canfyddedig neu unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn unigolyn sy’n drawsryweddol neu y credir sy'n drawsryweddol.'
Digwyddiad casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn teimlo sydd wedi’i seilio ar ragfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.
Nid oes yn rhaid cael tystiolaeth o’r elfen gasineb. Nid oes angen i chi’n bersonol deimlo bod y digwyddiad yn gysylltiedig â chasineb. Byddai’n ddigon petai unigolyn arall, tyst neu hyd yn oed swyddog heddlu yn teimlo bod y digwyddiad yn gysylltiedig â chasineb.
Gall troseddau casineb ddod o dan un o dri phrif fath: ymosodiad corfforol, cam-drin geiriol ac ysgogi casineb.
Mae ymosodiad corfforol o unrhyw fath yn drosedd. Os ydych wedi dioddef ymosodiad corfforol dylech ei riportio. Yn dibynnu ar lefel y trais a ddefnyddir, efallai y caiff y tramgwyddwr ei gyhuddo â throsedd ymosodiad cyffredin, gwir niwed corfforol neu niwed corfforol difrifol.
Gall cam-drin geiriol, bygythiadau neu alw enwau fod yn brofiad cyffredin ac amhleserus iawn ar gyfer grwpiau lleiafrifol.
Yn aml bydd y rheini sy’n dioddef cam-drin geiriol yn ansicr a oes trosedd wedi’i chyflawni neu’n credu nad oes fawr y gall ei wneud. Fodd bynnag, mae cyfreithiau’n bodoli er mwyn eich diogelu rhag cam-drin geiriol.
Os ydych wedi dioddef cam-drin geiriol, siaradwch â’r heddlu neu un o’n sefydliadau partner ynglŷn â beth sydd wedi digwydd. Mae rhestr ohonynt ar ein tudalen Sut i riportio troseddau casineb.
Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pwy wnaeth eich cam-drin yn eiriol, gallai’r wybodaeth ein helpu i wella sut rydym yn plismona’r ardal lle digwyddodd yr achos o gam-drin.
Mae trosedd ysgogi casineb yn digwydd pan fydd rhywun yn gweithredu mewn modd sy’n fygythiol ac wedi’i fwriadu i feithrin casineb. Gallai hynny fod ar ffurf geiriau, lluniau, fideos, cerddoriaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth a roddir ar wefannau.
Gallai deunydd casineb gynnwys:
Mae gan nifer o bobl sydd ag anableddau neu bobl oedrannus ‘gyfeillion’ neu ‘ffrindiau’ sy’n mynd ymlaen i’w cam--drin.
Troseddau cyfeillio yw’r rhain.
Gall nifer o’r rheini yr effeithir arnynt gael anhawster i adnabod pan gam-fanteisir arnynt neu, pan fyddant yn sylweddoli bod rhywbeth o’i le, gallai fod rhwystrau i’w riportio.
Efallai y bydd gormod o ofn arnynt i ddweud wrth unrhyw un gan y bydd y rheini sy’n gyfrifol yn aml yn gwneud bygythiadau cas er mwyn cadw’r unigolyn yn dawel.
Gallai fod oherwydd, er bod yr unigolyn yn gwybod bod y berthynas yn anghyfartal neu’n un o reoli, mae hynny’n well na dim cyfeillgarwch o gwbl gan nad oes gan y bobl a dargedir yn y modd hwn yn aml unrhyw rwydwaith gefnogi ac maent wedi’u hynysu’n gymdeithasol. Gall pobl sydd ag anableddau gael anhawster i greu a chynnal cyfeillgarwch. Mae pobl oedrannus yn aml yn teimlo wedi’u hynysu oherwydd salwch neu anawsterau symudedd.
Gall ‘cyfaill’ fod yn ffrind, cymydog, gofalwr neu rywun arall y mae’r unigolyn yn ei adnabod. Gallai unigolyn arall sydd ag anabledd hefyd gyflawni troseddau cyfeillio.
Mae adroddiad Llywodraeth Cymru 'Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu' yn cydnabod bod Troseddau Cyfeillio yn faes pryder ac mae wedi’i nodi fel math penodol o drosedd gasineb anabledd. Fodd bynnag, er gwaethaf ei label, nid yw’r math hwn o gam-fanteisio yn cael ei gofnodi fel trosedd benodol.
Mathau o droseddau cyfeillio
Mae nifer o asiantaethau all eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch – mae rhestr o grwpiau cefnogi i’w gweld ar ein tudalen Sut i riportio troseddau casineb.