Riportio am berson sydd ar goll
Os ydych chi’n credu bod ffrind neu aelod o’ch teulu wedi mynd ar goll, neu os oes gennych wybodaeth am berson sydd ar goll, gallwch gael gwybod sut i gysylltu â ni yma.
Offeryn cyngor
Riportio am breswylydd y DU sydd ar goll mewn gwlad arall
Diolch. Os ydych yn meddwl bod y person sydd ar goll mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch 999 ar unwaith.
Os nad ydych yn meddwl bod y person sydd ar goll mewn perygl ar hyn o bryd, cysylltwch â ni drwy ffonio ein rhif di-argyfwng, 101.
Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol wrth law, os yn bosibl:
- y dyddiad a’r amser y gwelwyd y person ddiwethaf, a phwy welodd ef neu hi
- beth oedd y person yn ei wisgo pan welwyd ef neu hi ddiwethaf
- disgrifiad o’r person, megis taldra, lliw, marciau neu greithiau
- lle oedd y person yn aros
- unrhyw gysylltiadau yn y wlad yr ydych chi’n credu mae’r person ynddi neu y gallai fod ynddi
- unrhyw beth sydd wedi’i wneud yn barod i geisio dod o hyd i’r person
- unrhyw nodweddion bregus, megis anghenion meddygol neu anabledd
- dyddiad geni’r person
- rhif ffôn a manylion unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y person
Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr byddai’n well gennym glywed gennych a gwneud y penderfyniad ein hunain.