Riportio trosedd
Coronafeirws (Covid-19)
Os ydych chi eisiau dweud rhywbeth wrthym am ddigwyddiad yr ydych chi’n meddwl a allai fod yn mynd yn groes i’r mesurau 'Aros gartref', cysylltwch â ni ynglŷn â hynny gan ddefnyddio ein gwasanaeth coronafeirws (Covid-19).
Os ydych wedi bod yn dyst neu wedi dioddef trosedd, riportiwch hynny yma. Bydd hyn yn ein helpu i ddwyn y troseddwr gerbron llys a gwneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd i unrhyw un arall. Atebwch ychydig o gwestiynau cyflym isod i weld beth yw’r ffordd orau i gysylltu. Mae’r math o wybodaeth a roddir gennych yma yn chwarae rhan bwysig iawn yn sut yr ydym yn cynllunio ein plismona.
Offeryn cyngor
Riportio bygythiadau, cam-drin geiriol neu ymosodiad a difrod i eiddo
Diolch. Gallwch riportio’r drosedd hon ar-lein.
Cliciwch 'Dechrau' isod i gwblhau ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch fel bod gennym bopeth sydd ei angen arnom er mwyn dechrau ymchwiliad.
Bydd ein tîm yn adolygu eich adroddiad ac yn cysylltu’n ôl â chi o fewn 48 awr. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’ch adroddiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Cyfartaledd amser cwblhau: 20 munud
Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol gennych, os yn bosibl:
- dyddiad ac amser y drosedd
- disgrifiad o’r eiddo sydd wedi’i ddifrodi (e.e. math, lliw, rhif)
- manylion y difrod a wnaed i’r eiddo
- manylion cyswllt unrhyw un a oedd yn dyst i’r drosedd
- gwybodaeth am unrhyw dystiolaeth a allai helpu ein hymchwiliad
Dechrau