Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi bod yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ein ffonio.
Cyn eich bod yn rhoi manylion y drosedd i ni, byddwn yn gofyn ychydig gwestiynau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd y ffurflen ar-lein gywir.
Riportio trosedd ar-lein a allai fod wedi digwydd y tu allan i’n hawdurdodaeth
Diolch. Os ydych chi wedi dioddef ymddygiad tramgwyddus neu fygythiol ar gyfryngau cymdeithasol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ei riportio wrth ddarparwr y gwasanaeth yn gyntaf, megis Facebook, Twitter neu Snapchat.
Efallai y bydd y darparwr gwasanaeth yn gallu rhoi rhybudd i’r tramgwyddwr am ei ymddygiad neu, mewn rhai achosion, ei wahardd o’r gwasanaeth.
Os ydych hefyd am ei riportio wrthym ni, ffoniwch ein rhif cenedlaethol 101. Bydd ein tîm yn cymryd ychydig o fanylion gennych ac yn eich arwain drwy’r camau nesaf.