Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y ffurflen yn cymryd tua 5 i 10 munud i'w llenwi, felly gofalwch eich bod yn ddiogel i gymryd yr amser hwnnw i'w llenwi.
Defnyddiwch y botwm 'Allanfa Gyflym’ os oes angen. Bydd yn cau'r wefan hon ac yn agor peiriant chwilio Google; fydd eich ffurflen ddim yn cael ei chadw ac ni fydd yn cael ei hanfon aton ni.
Bydd eich adroddiad yn mynd i'n canolfan gysylltu 24/7 a bydd yn cael ei hadolygu o fewn ychydig oriau fan bellaf.
Bydd swyddog sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn cysylltu â chi o fewn 24 awr fan bellaf, neu ar yr adeg ac yn y ffordd rydych chi wedi gofyn inni wneud (byddwn yn gofyn am hyn ar y ffurflen).
Wnawn ni ddim anfon derbynneb ebost atoch, gan y gallai hynny fod yn fygythiad i'ch diogelwch.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich hanes gwe, dyma wybodaeth am sut i guddio’r ymweliad hwn.
Sylwch: mae'r gwasanaeth hwn ar gael er mwyn riportio ymddygiad sy’n rheoli, yn bwlio, yn bygwth neu’n dreisgar rhwng partneriaid, cyn-bartneriaid, aelodau o'r teulu neu ofalwyr.
Os yw’r hyn rydych am ei riportio wrthym ni yn ymwneud â phobl sydd ddim yn perthyn i’w gilydd yn y modd hwnnw, defnyddiwch ein gwasanaeth riportio troseddau ar-lein.
Mae'r ardal hon yn dod o dan dim yn hysbys.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu wedi cael eich anafu, mae angen ichi ffonio 999 nawr.
Os ydych chi'n riportio camdriniaeth ddomestig iddyn nhw, ffoniwch 101 neu ewch i'w gwefan i gael rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â nhw. dim yn hysbys