Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch riportio gwrthdrawiad neu drosedd yrru drwy ddilyn y camau isod.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i'w ddisgwyl o'r broses yma, ewch i'n tudalen riportio digwyddiad traffig ffyrdd.
Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd i lywio ac os cewch chi broblemau yn riportio ar-lein, gallwch ffonio’n rhif 101 lle nad yw’n argyfwng neu defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18001 101 lle nad yw’n argyfwng.
Riportio digwyddiad traffig ffyrdd gyda throsedd bosib
Diolch. Os ydych chi wedi cyfnewid manylion gyda'r bobl oedd yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad, does dim angen i chi ddweud wrth yr heddlu. Gweler y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, Adran 170 am fanylion pellach.
Serch hynny, os ydych yn credu bod trosedd wedi'i chyflawni a arweiniodd at y digwyddiad, gallwch ei riportio fan hyn.
Gallwch ei riportio:
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol ar gael, os yn bosibl:
Tystion annibynnol
Rhaid i dyst annibynnol fod yn berson sydd wedi gweld y digwyddiad ond sydd heb gysylltiad o gwbl â'r digwyddiad neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â’r digwyddiad.
Canllawiau ar dystiolaeth
I gael ei derbyn yn y llys, mae’n rhaid i dystiolaeth:
Gellir rhannu lluniau fideo gyda'r partïon eraill sy'n gysylltiedig.
Mae'n fwy tebygol y byddwn yn gallu gweithredu os yw rhif cofrestru'r cerbyd(au) sydd wedi troseddu yn weladwy yn y dystiolaeth.
Sylwer: os yw eich tystiolaeth yn eich dangos chi’n cyflawni trosedd, yn ogystal â'r troseddwr, efallai y cewch chi eich erlyn hefyd.
Bydd eich adroddiad yn cael ei adolygu a bydd ein tîm yn cysylltu â chi yn ôl.
Ar ôl i chi gyflwyno adroddiad ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi ohono. Dyma fydd yr adroddiad gwrthdrawiad. Byddwch yn gallu anfon yr adroddiad hwnnw at eich cwmni yswiriant neu gyfreithiwr.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 30 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i gychwyn.
Riportio digwyddiad traffig ffyrdd gyda throsedd bosib