Mae camau penodol y mae angen i chi gymryd os ydych chi wedi colli rhywbeth neu ddod o hyd i rywbeth mewn man cyhoeddus.
Dyma’n cyngor:
Colli eiddo mewn man cyhoeddus
Os ydych chi wedi colli rhywbeth, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n olrhain eich camau ac yn cynnal ymholiadau yn yr ardal y gallech fod wedi ei golli. Does dim angen i chi adrodd am eitem goll i’r heddlu. Rydym ond angen cael gwybod os ydych chi’n credu bod yr eitem wedi ei dwyn.
Dod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus
Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw un o’r eitemau hyn, galwch 101 yn syth, neu ewch i’ch gorsaf heddlu agosaf:
- Eitemau rydych chi’n credu sy’n gysylltiedig â throsedd
- Pasbortau nad ydynt o’r DU
- Gynnau/arfau/bwledi
- Cyffuriau anghyfreithlon/sylweddau nad oes modd eu hadnabod neu eitemau a allai beri perygl neu niwed i eraill
- Deunydd pornograffig
Os ydych chi wedi dod o hyd i unrhyw eitemau sydd ddim wedi eu rhestri isod, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i wneud ymdrech resymol i ddod o hyd i’r perchennog. Efallai y gallech holi mewn cyfleustodau cyfagos, gosod hysbyseb yn y papurau newydd lleol, neu ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol o bosibl.
Os ydych chi’n dod o hyd i eitemau megis trwyddedau gyrru, tystysgrifau geni/marwolaeth/priodas neu basbortau Prydeinig, rhowch wybod i’r awdurdod a’u cyhoeddodd. Er enghraifft, cysylltwch â’r DVLA am drwydded yrru rydych chi wedi dod o hyd iddi.
Beth i’w wneud gydag eitemau penodol
Unrhyw ymholiadau eraill
Ar gyfer pob eitem arall sydd wedi ei golli neu ei ganfod, neu os oes gennych unrhyw amheuon, galwch ni ar 101 neu ewch i’ch gorsaf heddlu leol.