Ardal leol: Tref Llandrindod
Dyddiad a gytunwyd: 04 Ionawr 2019
Gweithred
Bu’r tafarndai a’r clybiau’n brysur dros gyfnod y Nadolig, ac yr y cyfan, ni fu unrhyw helynt. Byddwn ni’n cwrdd â thrwyddedigion a’n partneriaid yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror, sy’n gyfnod tawelach, i weld pa un ai a oes unrhyw beth y mae angen i ni newid er mwyn sicrhau blwyddyn hwylus.
Mae achosion o dwyll ar-lein a dros y ffôn yn parhau i gynyddu. Am gyngor ymarferol ynghylch sut i beidio â chael eich twyllo, galwch heibio i http://www.scambusters.org/ a http://www.actionfraud.police.uk/. Fel arall, cysylltwch â’ch tîm plismona bro lleol er mwyn trefnu ymweliad gan un o’n hyrwyddwyr seiber.