05 Awst 2014

Mae’r heddlu’n ymchwilio i fyrgleriaeth a ddigwyddodd rhywbryd dros nos ar 4/5 Awst ar faes yr Eisteddfod yn Llanelli.

Mae coffor a oedd yn cynnwys arian wedi’i ddwyn. Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i alw heddlu Llanelli ar 101.