07 Rhag 2018

O batrolio’r strydoedd i achub pobl ar y môr, mae dyn o Ddinbych-y-pysgod yn byw bywyd dwbl fel swyddog gyda Heddlu Dyfed-Powys a gwirfoddolwr gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

Daw PC Rob Garland o deulu sydd, gyda’i gilydd, wedi rhoi 180 mlynedd o wasanaeth i wasanaeth y bad achub yn Ninbych-y-pysgod, ac mae’n rhoi ei amser rhydd i helpu pobl ac anifeiliaid sydd mewn trafferth ar y môr.  

PC Rob Garland

PC Rob Garland

Mae wedi siarad am ei brofiadau wrth i Heddlu Dyfed-Powys ddathlu swyddogion a staff sy’n rhoi o’u hamser i asiantaethau eraill fel rhan o Ddiwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig.  

Dywed PC Garland, a ymunodd â RNLI yn 17 oed: “Â minnau yn Ninbych-y-pysgod, rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser wrth yr harbwr ac ar y traethau, ac roeddwn i bob tro i mewn ac allan o gychod. Roedd yn beth naturiol i mi wneud.

“Mae gan fy nheulu draddodiad hir â RNLI Dinbych-y-pysgod. Cocs oedd fy hen-dad-cu, fel fy hen-ewythr, tra bod fy nhad-cu ac ewythrod eraill hefyd yn rhan o’r criw.

“Roedd yn anochel y byddwn i’n ymuno.”

Nid yn unig y mae RNLI yn rhan o’i deulu, esboniodd PC Garland fod y criw ei hun yn gymuned sy’n cyfuno eu hymdrechion er mwyn cyflawni’r gwaith.

“Mae gennym griw gwych yn Ninbych-y-pysgod. Mae pawb ohonom yn gwybod ein bod ni yno i wneud swydd, fodd bynnag, rydyn ni’n cael hwyl hefyd,” meddai. “Rydyn ni’n mynd i lawer o ddigwyddiadau o fewn y gymuned ac yn gweithio’n agos â’r holl asiantaethau partner yn y digwyddiadau hyn.

“Fodd bynnag, pan mae’r peiriant galw’n canu, mae pawb sylw pawb yn troi eu sylw at yr alwad honno yn syth ac mae’r ymagwedd broffesiynol heb ei hail.”

Mae’r digwyddiadau y mae PC Garland a’r criw’n cael eu galw iddynt yn amrywio o helpu treillong sydd wedi’i hanalluogi, mynd allan at longau cargo, sy’n pwyso dros 150 gwaith yn fwy na bad achub, sydd wedi torri i lawr, neu helpu plant mewn dingi chwyddadwy rhag cael eu chwythu oddi ar y traeth. Ychwanegodd fod y criw’n cael eu galw fwyfwy i helpu anifeiliaid mewn trafferth. 

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn y nifer o weithiau rydyn ni’n mynd at gŵn sydd wedi syrthio dros glogwyni. Rydyn ni’n ymateb i’r galwadau hyn oherwydd gall y ci dal fod yn fyw yn y dŵr, ac rydyn ni hefyd am sicrhau diogelwch perchennog y ci,” meddai. “Os ydyn nhw’n gwybod fod help ar y ffordd, mae’n medru atal ac yn atal perchnogion rhag mentro mewn i’r dŵr neu ddringo i lawr clogwyni er mwyn cyrraedd eu hanifail.

“Â minnau’n berchen ar gi fy hun, mae’n anodd gweld ci sydd wedi syrthio 60 medr i’r creigiau islaw, a’r perchennog mewn gofid yn ceisio ei gyrraedd. Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i achub y ci a dod â’r ci nôl at y perchennog mewn modd parchus ac urddasol, ar yr amod ei fod yn ddiogel i ni wneud hynny.”

Mae PC Garland is yn un o’r criw ar ddau fad achub Dinbych-y-pysgod, ac esboniodd fod y bad achub llai, sef bad achub y glannau dosbarth d, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwilio ac achub ym mrig y don, mewn dŵr bas ac mewn lleoliadau cyfyng – yn aml ger clogwyni, ymysg creigiau, a hyd yn oed mewn ogofau. Mae’r cwch arall yn gwch dosbarth Tamar pob tywydd mwy o faint sy’n medru mynd allan i’r môr mewn unrhyw dywydd ac yn cywiro ei hun yn achos dymchwel.   

O edrych nôl ar alwadau, meddai: “Nôl ym mis Hydref 2017, lansiom y cwch pob tywydd i mewn i storm garw iawn 10 amod yn ystod Storm Brian yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi ei olchi oddi ar y creigiau.

“Wrth ymateb i’r alwad, torrais fy llaw o ganlyniad i effaith y tonnau ar y cwch, a oedd yn cael ei foddi’n aml gan donnau mawr. Wrth lwc, braw diachos gyda bwriad da ydoedd.

“Rydw i hefyd yn cofio mynd at i long gargo ym mis Chwefror 2016 a oedd yn drifftio am fod yr injan wedi methu i’r de o Ynys Bŷr. Lansiom er mwyn cynorthwyo a’i gadw i ffwrdd o Ynys Bŷr hyd nes i gwch tynnu gyrraedd i’w achub.

“Roedd y tonnau ymysg y rhai mwyaf rydw i erioed wedi’u gweld, gan fwrw’r llong gargo, a oedd yn 94 medr o hyd, i’r cysgod. Wrth lwc, aeth y llong gargo heibio Ynys Bŷr a gollyngodd ei angor i’r dwyrain lle’r arhosom am ychydig oriau er mwyn sicrhau nad oedd yn drifftio mwyach.”

Fel swyddog heddlu, mae PC Garland yn gweithio o gwmpas ei sifftiau – gan hyd yn oed ymateb i alwad funudau ar ôl mynd i’w wely yn dilyn sifft nos.

“Rwy’n ymwybodol fod fy mhrif swydd fel swyddog heddlu’n dod gyntaf,” meddai. “Rwy’n wirfoddolwr gyda RNLI, fodd bynnag, nid yw’n talu fy nghyflog.

“Unwaith rwy’n cyrraedd adref ar ôl gorffen sifft, rwy’n troi fy mheiriant galw ymlaen ac yn ymateb i unrhyw alwadau rwy’n derbyn. Ar fy niwrnodau gorffwys neu yn ystod gwyliau blynyddol, os ydw i yn Ninbych-y-pysgod, mae fy mheiriant galw gyda mi bob amser.

“Erbyn hyn, pan fydd fy mhartner a minnau’n mynd allan am bryd o fwyd, rydw i bob amser yn gadael fy waled ac allweddi’r car gyda hi oherwydd rydw i wedi ei gadael yn y bwyty gan fynd â nhw gyda mi yn y gorffennol, gan adael y gwaith anodd o esbonio wrth y staff iddi hi.”