18 Hyd 2016

 

  • Dywedodd 77% o drigolion Cymru mai lladrad hunaniaeth yw eu prif bryder

  • Mae 39% o’r genedl yn defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer sawl cyfrif ar-lein

  • Collodd y DU bron i £11 biliwn y llynedd i dwyll a seiberdroseddu

  • Mae ymchwil gan Get Safe Online yn dangos y gall dioddefwyr yn y DU fod yn colli £520 y person ymysg y rhai sydd wedi profi seiberdroseddu

  • Mae Get Safe Online yn annog pobl i wneud pob dydd yn fwy diogel trwy drin diogelwch ar-lein fel rhan o’n trefn ddyddiol

18 Hydref 2016: Heddiw, mae pobl a busnesau bach yn ardal Dyfed-Powys yn cael eu hannog i ddechrau gwneud pob dydd yn fwy diogel wrth i ffigurau trosedd diweddar gan Get Safe Online a‘r Ganolfan Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll (NFIB) ddangos bod £4 miliwnwedi’i golli yn yr ardal o ganlyniad i dwyll, gan gynnwys seiberdroseddu, yn 2015/16. Yn genedlaethol, cododd y ffigwr hwn i £10.9 biliwn yn ystod yr un cyfnod, sydd gyfystyr â £210 fesul person dros 16 oed sy’n byw yn y DU, ond mae hyn ond yn cynrychioli twyll a seiberdroseddau sydd wedi’u riportio i Action Fraud.

Fodd bynnag, mae arolwg a gomisiynwyd ar gyfer nodi Diwrnod Diogel Ar-lein (18 Hydref), yn dangos bod y ffigwr yn y DU yn debygol o fod yn uwch o lawer, gydag ymatebwyr sydd wedi dioddef trosedd ar-lein yn colli £523 yr un ar gyfartaledd, sy’n fwy nag enillion cyfartalog trigolion y DU, sef £505 ar hyn o bryd. Yn ogystal, dywedodd 39% o bobl a ddywedodd eu bod wedi dioddef trosedd ar-lein nad oeddent wedi riportio’r digwyddiad, sy’n golygu y gall yr arian sy’n cael ei golli gan y DU fod yn fwy o lawer.

Yng Nghymru, dywedodd 30% mai ychydig iawn o ddealltwriaeth oedd ganddynt am y peryglon maen nhw’n wynebu ar-lein, ond dywedodd 91% eu bod nhw ychydig yn bryderus, neu’n bryderus iawn, am eu diogelwch ar-lein. Yn ogystal, dywedodd 88% eu bod nhw’n teimlo bod troseddau ar-lein yn fwy niweidiol na throseddau corfforol.

Dioddefwyr Seiberdroseddwyr

Roedd yr ymchwil yn dangos bwlch yn nealltwriaeth pobl o’r hyn cael ei ystyried yn drosedd ar-lein, ac mae’r bwlch hwn yn peri gofid. Dywedodd 89% o drigolion Cymru nad oeddent wedi’u targedu gan seiberdroseddwyr yn ystod y 12 mis diwethaf, ond mewn gwirionedd, roedd 61% wedi’u targedu mewn amryw o ffyrdd:

  • Derbyniodd 51% e-byst neu negeseuon twyllodrus sydd wedi ceisio’u cyfeirio at wefannau lle y gallai eu gwybodaeth bersonol fod wedi’i dwyn, gan gynnwys manylion banc, enwau defnyddwyr a chyfrineiriau

  • Dywedodd 25% bod rhywun a oedd yn ceisio’u twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol wedi cysylltu â nhw

  • Roedd cyfrifon e-bost neu gyfryngau cymdeithasol 11% wedi’u hacio

  • Roedd 2% wedi dioddef meddalwedd wystlo – trosedd ar-lein sy’n brysur dyfu

O’r rhai a ddywedodd eu bod nhw wedi dioddef seiberdrosedd, dywedodd 67% eu bod nhw’n teimlo bod y mater yn rhy ddibwys i’w riportio. Testun pryder yw bod 57% hefyd wedi dweud eu bod nhw’n teimlo nad oedd modd gwneud unrhyw beth.

Arferion gwael ar-lein

Ond, mae nifer o bobl yng Nghymru dal ddim yn cymryd y camau sylfaenol ar gyfer diogelu eu hunain ar-lein, gyda chynifer â 39% yn dweud eu bod nhw’n defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer sawl cyfrif ar-lein. Yn wir, hyd yn oed pan mae cwmni’n eu rhybuddio i newid eu cyfrinair yn dilyn tor diogelwch – cysylltwyd â 28% mewn perthynas â hyn – dywedodd 14% nad oeddent wedi dilyn y cyngor. Yn ôl yr arolwg, roedd pobl yn defnyddio 10 cyfrinair ar gyfartaledd ar draws dyfeisiau a chyfrifon.

Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod ymatebwyr yn yr ardal ond yn diweddaru eu meddalwedd diogelwch bob 7 mis, ac nid yw 25% yn diweddaru eu systemau gweithredu o gwbl. O ran diogelu gwybodaeth bersonol, dywedodd 22% eu bod nhw byth yn diweddaru eu gosodiadau diogelwch ar gyfryngau cymdeithasol, gyda 66% yn dweud nad oeddent yn gwybod sut i wneud hyn. Yn ychwanegol at hyn, nid yw 26% yn cadw copïau wrth gefn o’u dogfennau a’u ffotograffau.

Dywedodd Tony Neate, Prif Weithredwr Get Safe Onlin: “Mae’r ffaith bod y DU yn colli £11 biliwn i seiberdroseddwyr yn frawychus ac yn tynnu sylw at yr angen i bob un ohonom sicrhau ein bod ni’n trin ein diogelwch ar-lein o ddifrif. Mae ein harolwg yn dangos yn glir bod pobl yn bryderus, ac mae hynny’n ddigon teg.”

“Mae’r ffaith bod dros dreian o bobl yn teimlo nad oedd dim y gellir ei wneud i’w hatal rhag dioddef seiberdrosedd yn frawychus - yn arbennig pan mae diogelu’ch hun ar-lein mor hawdd. Yn ogystal, mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl yn colli symiau mawr o arian ar gyfartaledd - £523, sef cost gwyliau tramor neu bris darn o dechnoleg newydd yn y cartref. O ganlyniad, ymddengys bod llawer o waith i’w wneud o ran addysgu. Peidiwch â gadael i seiberdroseddwyr osgoi cael eu cosbi drwy sicrhau eich bod chi’n diweddaru systemau gweithredu’n dyfeisiau amrywiol a sicrhau bod meddalwedd diogelwch yn cael ei diweddaru bob tro. Hefyd, mae angen i ni gyd sicrhau bod gennym gyfrineiriau gwahanol ar gyfer pob cyfrif ar-lein sydd gennym a phob gwefan rydyn ni’n ymweld â hi. Mae angen i ddiogelwch ar-lein fod yn rhan o’n trefn ddyddiol.”

Dywedodd Chris Greany, Comander Heddlu Dinas Llundain, Cydlynydd Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer Troseddau Economaidd:

“Yn aml, mae’r golled ariannol fawr i seiberdroseddu’n cuddio straeon dynol torcalonnus sy’n dinistrio bywydau ac sy’n fall ar bob cymuned yn y DU. Mae angen i ni gyd ofyn i’n hunain pa un ai a ydyn ni’n gwneud pob dim o fewn ein gallu i ddiogelu’n hunain rhag troseddwyr ar-lein. Yn anffodus, mae pobl dal yn clicio ar ddolenni mewn e-byst digymell ac yn methu â diweddaru eu meddalwedd diogelwch. Ni fyddech chi’n gadael eich drws heb ei gloi. Yn yr un modd, dylech ddiogelu’ch hun ar-lein.”

Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed-Powys: “Ein strydoedd cudd yw seiberdroseddu, ac mae angen inni gadw pobl yn ddiogel o fewn y gymuned ar-lein. Rwy’n annog y cyhoedd i drin diogelwch ar-lein o ddifrif, gan dalu sylw arbennig i’r cyfrineiriau rydych chi’n eu defnyddio ar-lein. Mae defnyddio cyfrineiriau cryf yn rhan hollbwysig o atal trosedd ac aflonyddu ar droseddau, ac rwy’n annog y cyhoedd i feddwl o ddifrif am bwysigrwydd y neges hon. Y ffordd hawsaf i greu cyfrinair cryf, cofiadwy yw defnyddio tri gair ar hap.”

Gwneud diogelwch ar-lein yn rhan o’ch trefn ddyddiol

Mae Diwrnod Diogel Ar-lein eleni’n annog pawb i ddechrau gwneud pob dydd yn fwy diogel drwy ddilyn rhai camau syml:

  • Adolygwch y cyfrineiriau rydych chi’n defnyddio ar gyfer eich cyfrifon ar-lein: Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n ddigon cryf ac nad ydych chi’n defnyddio’r un rai ar gyfer mwy nag un cyfrif. Ystyriwch sut rydych chi’n mynd i’w cofio – megis defnyddio coffor cyfrineiriau ar-lein.

  • Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr mai dim ond y rhai rydych chi’n ymddiried ynddynt sy’n gweld eich gwybodaeth a’ch diweddariadau.

  • Diweddarwch eich system weithredu a’ch apiau/rhaglenni meddalwedd ar eich cyfrifiadur, ffôn symudol a’ch llechen os ydych chi wedi cael eich annog i wneud hynny. Dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd, a medrwch ei wneud tra’ch bod chi’n cysgu hyd yn oed gyda’ch dyfeisiau symudol.

  • Gwnewch gopïau wrth gefn o’ch gwybodaeth – mae defnyddio’r cwmwl yn ffordd dda o arbed eich holl luniau, dogfennau, cerddoriaeth, e-byst a ffeiliau anadnewyddadwy eraill.

  • Gwiriwch fod eich apiau a’ch meddalwedd diogelwch rhyngrwyd yn ddiweddar ac wedi’u troi ymlaen.

  • Os oes gennych blant, meddyliwch pa un ai a ydych chi’n gwneud digon i helpu i sicrhau eu bod nhw’n aros yn ddiogel ar-lein.

  • Os ydych chi wedi colli arian, riportiwch y mater i Action Fraud, sef y ganolfan adrodd twyll a throseddu ar-lein i'r DU drwy alw 0300 123 20 40 neu drwy alw heibio i www.actionfraud.police.uk. Os ydych chi’n dioddef cam-drin neu aflonyddu ar-lein, dylech ei riportio i’ch gwasanaeth heddlu lleol.