20 Medi 2018

Mae dioddefydd lladrad gyda chyllell wedi siarad am yr effaith y cafodd y digwyddiad ar ei fywyd wrth i Heddlu Dyfed-Powys gymryd rhan mewn amnest cyllyll cenedlaethol wedi ei anelu at gael arfau oddi ar y strydoedd. 

Pan roedd y dyn 24 oed yn mynd â’i gi am dro yng Nghaerfyrddin ar 20 Gorffennaf eleni daeth dyn nad oedd yn ei adnabod i fyny ato. Daliodd gyllell at ei frest, a’i orfodi i roi’r arian oedd yn ei waled. 

Cafodd yr ymosodwr, Teifion Lewis, o Heol Awst, Caerfyrddin, ei arestio a’i gyhuddo o ladrad o fewn pedwar diwrnod, a dedfrydwyd ef i 40 mis o garchar. 

Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad, dwedodd y dioddefydd sy’n dymuno bod yn ddienw: “I gychwyn, wnes i ddim sylweddoli fod ganddo gyllell. Wnes i gymryd mai dyn arall allan yn partïo oedd e, o ystyried ei fod e’n ifanc a’i bod hi’n hwyr ar nos Wener.

“Hyd yn oed pan roedd e’n syth o fy mlaen i gyda’i law ar fy mrest, cymrais i fod yn rhaid ei fod wedi cael gormod i yfed a’i fod wedi cwympo tuag ataf i. Ond unwaith i mi weld ei fod yn chwifio cyllell, newidiodd hynny bopeth. Ar y funud honno y sylweddolais i fy mod i mewn llawer mwy o berygl nad oeddwn i wedi meddwl yn gyntaf. 

“Rwy’n credu mai’r unig beth oedd yn mynd trwy fy meddwl i ar y pryd oedd siarad gydag e, gwneud beth roedd e’n dweud, a mynd oddi yno cyn gynted â phosibl heb fyd yn afreolus o wyllt. Roedd yn rhaid i mi gadw mor dawel fy meddwl â phosibl am yr amser roedd e’n rhwystro fy llwybr i.” 

Esboniodd mai dim ond pan roedd Lewis wedi mynd â’i arian a cherdded i ffwrdd y sylweddolodd beth allai fod wedi digwydd pe byddai pethau wedi mynd o le. 

“Meddyliais i am ba mor rhwydd y gallai e fod wedi fy nhrywanu a byddwn wedi fy ngadael ar stryd wag, yn oer ac ar fy mhen fy hun, yn gwaedu i farwolaeth, heb hyd yn oed ffôn symudol i alw fy ffrindiau a fy nheulu i ddweud wrthyn nhw fy mod i’n eu caru,” meddai. 

“Dydw i ddim wedi meddwl llawer ynghylch sut fydd fy marwolaeth, er ei fod yn anochel, ond feddyliais i erioed y gallai fy mywyd ddod i ben yn y modd hwnnw.” 

Roedd y dioddefydd wedi mynd â’i gi am dro bob nos am ddwy flynedd - gan ddefnyddio’r llwybr penodol hwn am saith mis – a hynny heb unrhyw broblem. Ers dioddef y lladrad, y mae nawr yn ochelgar ynghylch mynd allan yn y nos ac nid yw wedi gallu cerdded i lawr y lôn lle cafodd ei stopio heb ddioddef ôl-fflachiau. 

“Nid o reidrwydd y digwyddiad cyfan sy’n dod nôl i mi, ond rhannau gwahanol, fel pan ddechreuodd e wylo i mi am ei fywyd cartref, neu pan ymddiheurodd am ‘orfod fy mygio i’,” dwedodd. 

“O bell ffordd, yr hyn sydd wedi aros gyda fi fwyaf yw’r geiriau y dwedodd e wrthyf i tra roeddwn i’n cael fy mygio. Mae’r geiriau ‘Dwi eisiau dy arian di, dwi ddim eisiau dy fywyd di’ wedi bod yn ailadrodd yn fy meddwl bob dydd ers hynny, yn ddi-baid. 

Ar Fedi 2, yn Llys y Goron, Abertawe, dedfrydwyd Teifion Lewis am ladrad a bod â chyllell yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus. Darllenodd y dioddefydd ddatganiad wedi ei gyfeirio at Lewis yn uniongyrchol, yn ei annog i ailafael yn ei fywyd ac yn maddau iddo am yr hyn a wnaeth. 

“Gofynnaist ti i fi'r noson honno anghofio fod y lladrad erioed wedi digwydd,” darllenodd. “Rwy’n cymryd fod hynny oherwydd dy fod ti’n ofni’r hyn a fyddai efallai’n digwydd i ti o ganlyniad. Ond mae arna’i ofn fod y ddelwedd o gyllell yn cael ei fflicio tuag at fy mrest, a’r frawddeg ‘Dwi eisiau dy arian di, dwi ddim eisiau dy fywyd di’ yn rhywbeth na fyddaf i byth yn gallu eu dileu o fy meddwl, waeth faint rydw i’n dymuno iddyn nhw fynd. 

“Rydw i eisiau i ti wella, fodd bynnag. Rydw i eisiau i ti ddefynddio dy gosb fel deffroad, ac fel drws i wella dy ddyfodol a dyfodol y rhai hynny rwyt ti’n agos iddynt. Mae cymorth ar gael i ti, hyd yn oed yn y carchar, a hyd yn oed pan mae’n ymddangos nad oes gobaith ar ôl. Os gallaf i ailafael yn fy mywyd ar ôl diagnosis o awtistiaeth, gelli di wneud hefyd. 

“Rwyt ti’n ifanc, rwyt ti’n iach ac yn gryf, ac mae dal amser gyda ti. Defnyddia fe’n gall. Alla i ddim anghofio beth wnest ti, ond am yr un tro hwn fe wnaf i faddau i ti.” 

Mae’r dioddefydd wedi siarad am ei brofiad wrth i Heddlu Dyfed-Powys gymryd rhan yn Ymgyrch Sceptre – wythnos genedlaethol o weithredu gyda’r bwriad o fynd i’r afael â meddiant anghyfreithlon o gyllyll. Mae amnest cyllyll yn digwydd yn ystod yr wythnos (Medi 18-24), gyda phobl yn gallu binio’u cyllyll mewn mannau penodol ar draws ardal yr heddlu heb i neb ofyn unrhyw gwestiynau. 

Mae’r unigolyn 24 oed wedi cefnogi’r ymgyrch, a’r cyfle i gael cyllyll allan o’n cymunedau. 

“Byddai’n well gen i os byddai’r bobl hyn sy’n cario cyllyll yn bod yn onest ynghylch pwy ydyn nhw a pham eu bod yn cario cyllyll,” meddi. “Ond mae’n llawer pwysicach ei fod yn gyfle i gael yr arfau hyn oddi ar y stryd. 

“Os mae gallu gwneud hyn yn ddienw sy’n rhoi’r hyder i’r bobl hyn gael gwared â’u harfau, yna felly bydded.”