24 Ion 2019

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi addo peidio mynd yn hunanfodlon tuag at fathau newydd o droseddau a throseddau sy’n dechrau dod i’r amlwg, er iddynt gael ei dyfarnu fel y lle mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr o ran troseddau yn erbyn dioddefwyr. Mae gan yr heddlu'r nifer isaf o droseddau yn erbyn dioddefwyr, sy’n cynnwys troseddau rhyw, lladradau, llofruddiaethau a byrgleriaethau, yn ôl data’r Swyddfa Gartref a ryddhawyd heddiw (Ionawr 24).

Mae ystadegau’n dangos ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Medi 2018 y cafwyd 43.1 trosedd yn erbyn dioddefydd fesul pob 1,000 o bobl sy’n byw yn ardal yr heddlu. Gosodwyd Gorllewin Swydd Efrog ar ben arall y raddfa gyda 104.9 dioddefydd trosedd fesul pob 1,000 o bobl.

Er hyn, mae’r heddlu wedi addo peidio â chymryd ei statws fel y lle mwyaf diogel i fyw ynddo yn ganiataol, gan gydnabod mai cefnogi dioddefwyr trosedd yw ei flaenoriaeth ac nid safleoedd ar restrau graddio, a gan dderbyn hefyd y bydd ei swyddogion a’i staff yn wynebu heriau newydd sy’n dod i’r amlwg dros y blynyddoedd nesaf.

Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Lewis: “Rwy’n falch gweld bod y ffigurau diweddaraf yn dangos mai Dyfed-Powys yw’r lle mwyaf diogel i fyw ynddo yn y DU wrth ystyried troseddau yn erbyn dioddefwyr.

“Fodd bynnag, nid yw hyn o unrhyw gysur i ddioddefydd sydd efallai wedi gweld effaith ddifrifol trosedd ar ei fywyd. I ddioddefwyr, y peth mwyaf pwysig yw gallu cael mynediad at y lefel cywir o gefnogaeth wrth iddynt fynd drwy’r system cyfiawnder troseddol ac ymdrechu i gael eu bywydau’n ôl ar y trywydd iawn.”

“Dyma pam rydyn ni’n parhau i roi dioddefwyr wrth galon pob peth a wnawn, yn ymchwilio i ddigwyddiadau’n drylwyr ond gyda sensitifrwydd, ac yn defnyddio swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n benodol i sicrhau ein bod bob amser yn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl.”

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Lewis na all yr heddlu sefyll yn llonydd wrth i dirlun troseddu newid, a bod yn rhaid i uwch swyddogion sicrhau fod cydweithwyr bob amser yn dysgu ac yn addasu’r ffyrdd y maent yn amharu ar ymddygiad troseddol.

“Mae materion fel seiberdrosedd, caethwasiaeth fodern a rhwydweithiau cyffuriau llinellau sirol ond yn llond llaw o enghreifftiau o’r mathau o droseddau a fyddai’r tu hwnt i amgyffred rhywun 15 mlynedd yn ôl,” meddai. “Mewn cyfnod byr o amser, mae’r rhain wedi dod yn faterion difrifol nid yn unig i Ddyfed-Powys ond ar draws y DU.

“Mae gennym, wrth gwrs, gynlluniau mewn lle i ymdrin â’r materion hyn. Er enghraifft, gwnaethpwyd buddsoddiad sylweddol i Uned Cyfathrebu Digidol a Seiberdroseddu’r heddlu, ac mae nifer o weithrediadau’n digwydd ar hyn o bryd i amharu ar linellau sirol a’u hatal - ond byddai’n ddiniwed i ni eistedd yn ôl a meddwl nad oes angen i ni barhau i addasu.

“Rhaid i ni wneud pob peth y gallwn i gadw ar y blaen o’r rhai hynny sy’n manteisio ar bobl fwyaf agored i niwed ein cymunedau, neu’n ceisio elwa oddi arnynt.

“Er fy mod yn falch ac yn hapus o weld ein bod ar frig y data hwn oddi wrth y Swyddfa Gartref, rwyf yn ymwybodol iawn fod gennym faterion difrifol yn dod i’r amlwg y mae angen ymdrin â nhw, yn ogystal â chryfhau ein timau plismona bro sy’n ffurfio asgwrn cefn plismona.”