21 Chw 2018

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi datgan ei gefnogaeth tuag at adroddiad cenedlaethol sy’n tynnu sylw at faint yr ymosodiadau ar dda byw gan gŵn.

Rhyddhawyd adroddiad heddiw (Dydd Mercher 21 Chwefror) gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n dangos y problemau a wynebir gan berchnogion da byw, a’r heriau a wynebir gan heddluoedd wrth iddyn nhw gefnogi ffermwyr i ymdrin â’r mater.

Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i berchnogion cŵn roi gwybod i’r heddlu os yw eu ci wedi ymosod ar dda byw, ac nid yw ymosodiadau’n cael eu trin fel ‘troseddau cofnodadwy’ ar systemau’r heddlu. O ganlyniad, ni fu llawer o ddata heddlu dibynadwy ynghylch maint y broblem sy’n wynebu ffermwyr a pherchnogion da byw.

Treuliodd Gweithgor Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu flwyddyn yn edrych ar wir faint ymosodiadau ar dda byw ac achosion o’u poeni mewn pum gwasanaeth heddlu. Canfu bod 1,705 o ddigwyddiadau cofnodadwy yn yr ardaloedd hyn, a’r gost amcangyfrifol yw tua £250,000.

Mae’r grŵp wedi gwneud sawl argymhelliad ar gyfer newid, gan gynnwys gosod dyletswydd gyfreithiol ar berchnogion cŵn i roi gwybod i’r heddlu os yw eu ci wedi ymosod ar dda byw, ehangu diffiniad o’r lleoliad lle y gall trosedd ddigwydd o dan ddeddfwriaeth gyfredol, a gwneud poeni da byw yn drosedd gofnodadwy. Hefyd, mae’n gofyn am ddiwygio diffiniad da byw i gynnwys lamaod, alpacaod, emiwod ac estrysod, sy’n dioddef ymosodiadau gan gŵn ond sydd ddim yn cael eu gwarchod gan y gyfraith ar hyn o bryd.

Prif Gwnstabl Mark Collins

Prif Gwnstabl Mark Collins

Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Rydyn ni’n llwyr gefnogi’r adolygiad amserol hwn, a’r argymhellion a geir ynddo a fydd, yn ein barn ni, o fudd i ddioddefwyr y troseddau hyn a’r swyddogion sy’n ymchwilio iddynt.

“Dylai’r Swyddfa Gartref ei gwneud hi’n ofynnol i heddluoedd gofnodi ymosodiadau ar dda byw ac anifeiliaid sydd ddim yn cael eu rhestru fel da byw ar hyn o bryd fel trosedd gofnodadwy. Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu ein bod ni’n colli’r cyfle i wella’r darlun data.

“Gan nad yw poeni da byw yn drosedd gofnodadwy, mae’n anodd rhoi union ffigwr ar gost y troseddau hyn. Fodd bynnag, yn 2016, amcangyfrifwyd bod tua 15,000 o ddefaid wedi’u lladd gan gŵn, gyda’r gost i’r sector ffermio o gwmpas £1.3 miliwn - nid yw hyn yn gynaliadwy ar gyfer y gymuned ffermio.

“Rydw i hefyd yn credu ei bod hi’n hollbwysig bod perchnogion cŵn yn cymryd cyfrifoldeb os yw eu hanifeiliaid yn ymosod ar dda byw ac yn rhoi gwybod i’r heddlu yn syth. Bydd hyn yn caniatáu i berchennog y da byw fynd i’r lleoliad yn gynt, a gall achub bywydau rhai o’r anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio.

“Lansiom strategaeth troseddau gwledig yn ddiweddar, sy’n amlinellu ein hymrwymiad tuag at fynd i’r afael â throseddau sy’n digwydd mewn cymunedau gwledig a chefnogi dioddefwyr y troseddau hyn. Hefyd, rydyn ni wedi cynnal ein Fforwm Troseddau Gwledig cyntaf, a fydd yn cael ei gynnal yn chwarterol. Grŵp yw hwn sydd wedi’i ffurfio gan yr heddlu i ddod â sefydliadau ac asiantaethau partner at ei gilydd i drafod a thrin materion gwledig. Rydyn ni wrthi’n sefydlu cyfarfodydd sirol lle y gellir trafod materion mwy lleol.”

Ychwanegodd Robyn Mason, Uwch-arolygydd Ceredigion ac arweinydd yr heddlu ar gyfer troseddau gwledig: “Fel gwasanaeth heddlu sy’n plismona ardal sydd yn bennaf wledig, rydyn ni’n ymwybodol iawn o effaith emosiynol ac ariannol poeni da byw ar y perchnogion, ac mae’n drosedd rydyn ni’n trin yn ddifrifol iawn yn Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae swyddogion sy’n mynd i leoliadau achosion o boeni da byw ac ymosodiadau arnynt yn aml yn dod ar draws anifeiliaid sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol sydd angen eu difa oherwydd maint eu hanafiadau, neu sy’n colli eu hŵyn bach neu eu lloeau yn y groth. Gall y ci cysylltiedig gael ei saethu gan berchennog y da byw hefyd, neu ei ddifa’n ddiweddarach, sy’n amlwg yn peri gofid mawr i’r perchennog.

“Yn ogystal â’r effaith emosiynol ar ffermwyr a pherchnogion da byw, dibynnir ar yr anifeiliaid hyn am yr incwm maen nhw’n cynhyrchu, a gall ymosodiad effeithio’n ddifrifol ar sefyllfa ariannol y dioddefydd. Gall ymosodiad adeg tymor wyna gymhlethu hyn, pan mae da byw’r dyfodol hefyd yn cael eu colli.

Uwch-arolygydd Robyn Mason

Uwch-arolygydd Robyn Mason

“Er y bydd ffermwyr yn aml yn derbyn iawndal gan y perchnogion cŵn, lle mae’r perchennog yn hysbys, nid yw hynny wir yn ystyried costau parhaus prynu neu fagu da byw yn lle’r rhai a gollwyd.

“Rydyn ni’n aml yn rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg yn cynghori perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar denynnau a sicrhau nad yw cŵn yn medru dianc o adref. Rydyn ni hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad cŵn preswylwyr sydd ddim yn ffermio sy’n ymosod ar dda byw bob tro. Rydyn ni wedi derbyn adroddiadau am ddigwyddiadau lle mae cŵn o ffermydd cyfagos wedi ymosod ar dda byw.

“Er ein bod ni’n ceisio’n gorau i addysgu perchnogion cŵn, mae nifer yn credu ei bod hi’n iawn i ganiatáu i’w cŵn redeg yn rhydd o gwmpas cefn gwlad hyd yn oed pan mae’n amlwg bod da byw mewn caeau cyfagos. Mae tir preifat yn dir preifat ac oni bai fod ganddo hawliau ‘mynediad agored’ neu hawl dramwy cyhoeddus drwyddo, ni ddylai pobl fod yn cerdded eu cŵn drwy gaeau, heb sôn am eu gadael yn rhydd.”