04 Ebr 2017

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi defnyddio tystiolaeth DNA i sicrhau euogfarn yn erbyn dyn am drin defaid oedd wedi cael eu dwyn - y tro cyntaf i dystiolaeth o’r fath gael ei defnyddio mewn euogfarn yng Nghymru.

Cyfaddefodd Andrew Paul Thomas, oed 39, o Heol Bryncethin, Garnant, i’r cyhuddiad o fod wedi trin eiddo wedi ‘i ddwyn. ‘R oedd e wedi pledio’n ddieuog gynt ar ddiwrnod cyntaf treial yn Llys y Goron, Abertawe. Mae i fod cael ei ddedfrydu ar Ebrill 11.

Defnyddiwyd dulliau fforensig sydd fel arfer yn cael eu defnyddio ar bobl i hel DNA o’r defaid gan yr Asiantaeth Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). ‘Roedd hyn yn dystiolaeth allweddol yn yr achos erlid.

Adroddwyd bod 50 o ddefaid wedi cael eu dwyn o ardal Derwydd, Rhydaman yn Ionawr 2015, a dechreuodd y dioddefwr wneud ei ymholiadau ei hun o fewn y gymuned ffermio. Daeth o hyd i 21 o ddefaid, ac ‘r oedd yn amau ei fod yn eu perchen. ‘Roedd y defaid wedi cael eu gwerthu ym marchnad da byw Llanybydder o fewn llai na dwy wythnos o gael adrodd eu bod wedi cael eu dwyn.

‘R oedd Cwnstabl Meirion Jenkins o Rydaman eisiau profi y tu hwnt i bob amheuaeth mai eiddo’r dioddefwr oedd yr anifeiliaid. Ceisiodd gyngor gan arbenigwr troseddau gwledig yr Heddlu, yr Arolygydd dros dro Matthew Howells, a gynorthwyodd gyda chydlynu defnyddio’r dystiolaeth DNA a gafwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Arhosodd swyddogion oedd yn archwilio’r achos am ddau fis i’r defaid beichiog roi genedigaeth, ac wedyn ‘roedden nhw’n gallu tynnu samplau o waed o’r ŵyn. Cymerwyd samplau hefyd o hyrddod oedd yn perthyn i’r dioddefwr. Llwyddodd gwyddonwyr yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i brofi bod y rhan fwyaf o’r ŵyn newydd yn perthyn i hyrddod y dioddefwr drwy archwilio DNA o bob sampl gwaed. Dyma’r tro cyntaf i dystiolaeth o’r fath gael ei defnyddio i erlid achos o’r fath yng Nghymru, a dim ond y trydydd tro ar draws Lloegr a Chymru.

Dywedodd yr Arolygydd dros dro Matthew Howells, a leolir yng Ngorsaf yr Heddlu, Llambed: “Yn hanesyddol, mae hi’n anodd iawn cael hyd i achosion o ddwyn defaid a’u herlid, ac nid yw’r achos hon yn eithriad. Er nad oeddem yn gallu profi pwy ddygodd y defaid, ‘r oedden ni’n gallu defnyddio technegau fforensig sydd fel arfer  yn cael eu defnyddio ar bobl yn unig i helpu profi mai’r defaid a ddygwyd oedd y defaid hyn.

“Rhaid i mi ddiolch i gymuned ffermio Sir Gâr am eu hamynedd o ystyried yr amser mae wedi cymryd i’r achos hwn dod i ben yn llwyddiannus. Rhaid i mi ganmol dioddefwr yr achos hwn yn enwedig, am ei benderfyniad wrth geisio sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wneud. Nid yw’r ddwy flynedd hyn wedi bod yn rhwydd iddo na’i deulu. Maen nhw’n uned ffermio sydd yn gweithio’n galed ac nid oes amheuaeth bod y golled mewn incwm oherwydd y lladrad wedi yn anodd iddynt.

“Mae’r ffermwyr a brynodd y defaid yn hollol ddiniwed yn y farchnad hefyd yn haeddu fy niolch a’m gwerthfawrogiad am eu cymorth gyda’r archwiliad hwn, a hefyd fy nghydweithwyr o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am ddarparu’r cyfleoedd fforensig.

“Mae’r achos hwn yn dangos i ni ein bod yn gallu llwyddo i erlid pan fydd y gymuned ffermio yn cydweithio â’r Heddlu, yn adrodd am droseddau a rhoi gwybodaeth hanfodol i ni.”

Cafodd Cwnstabl Meirion Jenkins, a arweiniodd yr archwiliad, Wobr Cyfraniad i Archwiliad yn noson Wobrwyo Heddlu Dyfed-Powys Nos Iau.

Dywedodd: “Mae hi’n deimlad braf cael y wobr hon, ond ‘r wyn credu ei bod ar gyfer yr heddlu i gyd, nid y fi yn unig, achos ces i gymorth gan lawer o swyddogion eraill.

Dywedodd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygon Cymru: “Mae dwyn da byw yn gallu cael effaith ddifrifol ar ffermwyr ac mae’n dda gen i fod tystiolaeth DNA o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn gallu chwarae rhan mor allweddol yn yr achos hwn.” 

Dylai pob ffermwr sydd yn amau bod anifeiliaid wedi cael eu dwyn o’u tir gysylltu â’r heddlu ar 101.