04 Medi 2019

Mae Nigel Scourfield, technegydd cynnal a chadw gyda Heddlu Dyfed-Powys, wedi dathlu carreg filltir eithaf trawiadol – 50 mlynedd o wasanaeth ffyddlon gyda’r heddlu. Ymunodd fel cadét ifanc yng Nghaerfyrddin nôl yn 1969 pan oedd ond yn 16 a hanner mlwydd oed, ar ôl i sgwrs gydag ymgynghorydd gyrfaoedd ac ewythr a oedd yn Brif Arolygydd yn yr heddlu ar y pryd ei ysbrydoli. 

Wedi ei eni a’i fagu yn Arberth, mae Nigel wedi treulio ei wasanaeth cyfan yn Sir Benfro. Treuliodd ei ddwy flynedd gyntaf fel Cwnstabl Heddlu yn Ninbych-y-pysgod cyn symud ymlaen at batrôl traffig, ac yna cafodd ei ddyrchafu i reng Rhingyll yn 1987. Ar ôl cwblhau ei 30 mlynedd o wasanaeth fel swyddog, ymddeolodd ym mis Mawrth 2002, ond roedd yn gweld eisiau’r gwaith gymaint, dychwelodd fel aelod o staff yr heddlu yn y rôl technegydd cynnal a chadw 3 mis yn unig yn ddiweddarach.

Dywedodd Nigel: “Medraf ddweud â’m llaw ar fy nghalon fy mod i wedi mwynhau pob eiliad o’m 50 mlynedd o wasanaeth gyda’r heddlu – fel swyddog, a nawr fel staff cymorth. Mae Dyfed-Powys, a Sir Benfro yn arbennig, yn le gwych i fyw a gweithio – ac rwyf wastad wedi bod mor hapus, dydw i erioed wedi ystyried gadael. Rydw i dal yn mwynhau fy swydd, a does gen i ddim bwriad ymddeol ar hyn o bryd. Fel technegydd cynnal a chadw, rwy’n cael mynd o gwmpas bob dydd, ac mae pawb yn fy adnabod i. Mae’r agwedd gymdeithasol o’r gwaith mor bwysig i mi.

“Wrth i’m hymddeoliad fel swyddog agosáu, roeddwn i’n teimlo’n fwyfwy emosiynol am y peth. Roeddwn i’n teimlo yr hoffem aros gyda Heddlu Dyfed-Powys mewn rhyw swydd. Mae bod yn rhan o’r teulu heddlu’n arbennig, ac roeddwn i’n gwybod y byddwn yn gweld ei eisiau’n ofnadwy. Felly, pan welais swydd technegydd cynnal a chadw yn Sir Benfro’n cael ei hysbysebu, neidiais at y cyfle ac roeddwn wrth fy modd pan gefais i’r swydd. Rwy’n mwynhau mân waith crefft yn fawr hefyd, felly roedd y swydd yn berffaith ar fy nghyfer.”

Ac mae’n debyg ei fod yn draddodiad teuluol, gan fod ei ferch ifancaf yn dilyn ôl ei draed fel Cwnstabl Heddlu yn Hwlffordd, ac mae ei ferch hynaf yn nyrs yn y ddalfa. 

DIWEDD