26 Ebr 2019

Llwyddodd cydweithio agos rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Adnoddau Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a LandMarc i atal tri rêf y Pasg hwn.

Patroliwyd 23 safle posibl yn Sir Gaerfyrddin,  Ceredigion, Sir Benfro a Phowys dros benwythnos gŵyl y banc mewn ymgyrch o’r enw Flamenco.

Fel rhan o #YmgyrchFlamenco, anogodd yr heddlu aelodau o’r cyhoedd i adrodd am weithgarwch amheus yn syth fel bod modd tarfu ar gynulliadau cyn iddynt dyfu.

Llwyddodd Adnoddau Naturiol Cymru i atal digwyddiad yng nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin, ar ôl i staff weld bag o gerrig amheus, a rhubanau wedi’u clymu ar gatiau a chloddiau, sy’n arwyddion o ddigwyddiad. Atafaelodd yr heddlu’r eitemau a chafodd y digwyddiad ei ganslo.

Rhoddodd un o breswylwyr Gwyn Fawr, Powys, wybod i’r heddlu am gerbydau’n cyrraedd y dyffryn, gan alluogi tair o unedau Heddlu Dyfed-Powys ac un o unedau Heddlu Gwent i fynd yno a hel pum cerbyd o’r ardal.

Symudwyd 14 cerbyd a oedd wedi ymgynnull wrth gronfa ddŵr Tal-y-bont ar Wysg, Powys, ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiad gan un o swyddogion Dŵr Cymru. Rhoddwyd system sain gadw, ond bu’n rhaid i nifer o bobl aros mewn cilfan am eu bod nhw’n rhy feddw i yrru.

Ar Twitter, dywedodd Rhingyll 298 Owen Dillon ei fod wedi gwasgaru grŵp bychan o bobl a oedd wedi ymgasglu wrth gronfa ddŵr Tal-y-bont ar Wysg ar ôl derbyn galwad gan gwmni Dŵr Cymru, a’i fod wedi troi cerbydau i ffwrdd o ardal Gwyn Fawr gyda chymorth Heddlu Gwent er mwyn aflonyddu ar eu cynlluniau. Dywedodd fod swyddogion wedi aros yno er mwyn cadw llygad ar y ffordd fel rhan o Ymgyrch Flamenco.

Diolchodd Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Claire Parmenter, i’r swyddogion a staff heddlu a weithiodd ar yr ymgyrch, gan ddweud:

“Diolch i holl swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi gweithio dros wyliau’r Pasg. Llwyddwyd i atal sawl rêf anghyfreithlon drwy ragweithgarwch arbennig, gwaith partner, a thrwy rannu cudd-wybodaeth. Diolch.”

Mae rêfs anghyfreithlon yn tarfu ar gymunedau ac yn achosi difrod i gefn gwlad a thir fferm.

Meddai Dai Rees, arweinydd tîm rheoli tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Dylai ein coedwigoedd a’n cefn gwlad fod ar gael i bawb i’w mwynhau ond gall rêfs anghyfreithlon effeithio ar fywyd gwyllt a difrodi’r amgylchedd a’i  adael mewn cyflwr peryglus i eraill.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn achos gofid mawr i ymwelwyr a chymunedau lleol ac rydym eisoes yn cymryd camau i’w gwneud yn fwy anodd i bobl eu trefnu ar ein tir. Ond mae gweld yr arwyddion yn gynnar a rhoi gwybod amdanynt hefyd yn hynod o bwysig ac yn golygu y gallwn weithredu’n gynnar i rwystro grwpiau mawr o bobl rhag ymgynnull.

“Mae cydweithio â’r Heddlu a chymunedau lleol wedi bod yn amhrisiadwy a byddem yn dal i annog pobl i roi gwybod i’r Heddlu am unrhyw ddigwyddiad amheus drwy ffonio 101.”

Bydd ymdrechion i weithredu’n llym yn erbyn y digwyddiadau hyn yn parhau yn ystod y misoedd i ddod, gan weithio i fynd i’r afael â’r problemau mae digwyddiadau didrwydded yn cyflwyno, megis:

  • Pryderon ynghylch diogelwch: mae pobl o dan ddylanwad diod a chyffuriau ac nid oes cymorth cyntaf na chyfleusterau meddygol wrth law. Mae’n anodd, ac weithiau’n amhosibl, cael ambiwlansiau allan at gleifion.
  • Yfed/cymryd cyffuriau a gyrru.
  • Sbwriel a gwastraff dynol yn cael ei adael yn y safleoedd, a’r problemau glendid dilynol mae hyn yn cyflwyno.
  • Y perygl o dân.
  • Lladradau a difrod troseddol.
  • Gwerthu cyffuriau anghyfreithlon.
  • Yfed dan oed.

 

Adnabod yr arwyddion:

Dylech fod yn ymwybodol o rai mathau o ymddygiad amheus. Os fyddwch chi’n gweld neu’n profi unrhyw un o’r ymddygiadau hyn, galwch ni ar 101 os gwelwch chi’n dda.

  • Nifer anghyffredin o gerbydau, yn arbennig faniau gwersylla, faniau neu dryciau yn yr ardal.
  • Tresmaswyr anghyfreithlon a fydd efallai’n rhagchwilio safleoedd cyn unrhyw rêf.
  • Unigolion sy’n cysylltu â thirfeddianwyr neu’n ymholi ynghylch tir, a hynny drwy roi’r argraff eu bod yn dymuno llogi ar gyfer gweithgareddau sy’n ymddangos yn dderbyniol, fel merlogampau neu wersylloedd sgowtiaid.
  • Os ydych chi’n amau bod rhywun sy’n eich holi ynghylch llogi tir yn dweud celwydd am bwy ydyw, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r heddlu.
  • Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n haws i drefnwyr ledaenu’r gair - gall nifer y bobl mewn rêf dyfu’n sylweddol mewn amser byr, a gall lleoliadau newid yn gyflym.

Chwiliwch am #YmgyrchFlamenco ar Twitter er mwyn darllen mwy am weithgareddau’r penwythnos.