09 Ebr 2019

Helpodd plismona traddodiadol a chymorth gan y gymuned Heddlu Dyfed-Powys i ddatrys llofruddiaeth ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, a dod o hyd i’r troseddwyr.

Ar ddydd Iau 27 Medi 2018, cafodd Simon Clark, 54 oed, ei guro, ei drywanu a’i ladd yn ei gartref.

Yr hyn a ddatblygodd oedd ymchwiliad hir a chymhleth, ac ymgyrch chwilio a ddechreuodd heb fawr o dystiolaeth – dim ffilmiau teledu cylch cyfyng, dim tystion, ac ychydig iawn o dystiolaeth fforensig.

Gyda chymorth y gymuned, llwyddwyd i adnabod y drwgdybiedigion, sef Jeffrey Stephen Ward, 41 oed o Faes Carafanau’r Grove, Pentywyn, a Wayne David Baxter Tidy (sy’n adnabyddus yn lleol fel Steve Baxter), 52 oed o West Close, Kimberworth Park, Rotherham.

Dihangodd y ddau oddi wrth yr heddlu, ond daeth swyddogion o hyd i Ward a’i arestio yn San Clêr ddydd Sul 30 Medi. Cynhaliwyd ymgyrch chwilio ar raddfa fawr er mwyn dod o hyd i Baxter, a gwnaed ymholiadau mewn sawl ardal, o Rotherham yn ne Swydd Efrog i Hwlffordd yn Sir Benfro. Cafodd ei arestio ym Mhentywyn ddydd Sadwrn 27 Hydref ar ôl i gerddwr ci ei weld.

Wayne David Baxter Tidy (Steve Baxter)

Wayne David Baxter Tidy (Steve Baxter)

Euogfarnwyd Wayne David Baxter Tidy (Steve Baxter) yn Llys y Goron Abertawe am lofruddio Simon Clark. Fe’i dedfrydwyd i oes mewn carchar, gyda isafswm o 24 mlynedd.

Cafodd Jeffrey Stephen Ward ei ddarganfod yn ddieuog.

Y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones oedd yr Uwch Swyddog Ymchwilio ar gyfer yr achos.

Dywedodd, “Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu Mr Clark am eu colled dan amgylchiadau mor erchyll, a diolch iddynt am eu cymorth drwy gydol yr ymchwiliad.

“Mae’n dda gennyf dderbyn y dyfarniad bod Baxter yn euog o lofruddio Simon Clark. Mae’n dod ag ymchwiliad hir a chymhleth i ben ar gyfer teulu ac anwyliaid Mr Clark, a Heddlu Dyfed-Powys.

“Rwy’n gobeithio bydd y dyfarniad hwn yn dangos iddynt fod cyfiawnder wedi’i sicrhau, ac y bydd y ddedfryd yn atal pobl rhag cario cyllell.

“Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion heddlu ac aelodau staff a fu’n rhan o’r tîm ymchwilio. Gweithiodd pawb yn ddiflino er mwyn sicrhau bod achos trylwyr yn cael ei gyflwyno gerbron y llysoedd.

“Mae’n rhaid i mi ddiolch i aelodau o’r cyhoedd hefyd, a chymuned Pentywyn, am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod yr ymchwiliad.”

Roedd y tîm ymchwilio’n dibynnu ar ddulliau plismona traddodiadol a chymorth y gymuned er mwyn ymchwilio i’r llofruddiaeth ac adeiladu proffil o Baxter a’i leoliad posibl. Roedd cymhlethdod cynnal ymgyrch chwilio wrth geisio adeiladu achos â thystiolaeth gref ar gyfer y llofruddiaeth yn heriol, a arweiniodd at ddau ymgyrch heddlu’n cael eu cynnal ar yr un pryd.

Yn lleoliad y llofruddiaeth, ni ddatgelodd dadansoddiad fforensig lawer mwy na gwaed a oedd yn perthyn i’r dioddefydd. Adeiladodd swyddogion ddarlun o’r hyn ddigwyddodd drwy siarad ag aelodau o’r teulu a phreswylwyr eraill.

Arweiniodd y wybodaeth honno at Baxter a Ward yn cael eu hadnabod ar deledu cylch cyfyng yn ddiamheuaeth am y tro cyntaf yn archfarchnad Asda, Pen-y-bont ar Ogwr, ddydd Gwener 28 Medi, sef y diwrnod wedi'r llofruddiaeth. Roedd Baxter yn gwisgo gwallt gosod tywyll a het wlân er mwyn ceisio cuddio pwy ydoedd.

Darganfu ditectifs fod partner Ward, sef Julie Louise Harris, 46 oed o Stryd Wern, Clydach, wedi gyrru’r ddau ddyn a ddrwgdybiwyd o lofruddiaeth allan o’r ardal. Plediodd Harris yn euog i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gynorthwyo troseddwr. Fe’i dedfrydwyd i 14 mis wedi'i ohirio.

Arestiwyd Ward, ond roedd Baxter dal ar ffo. Roedd yn anodd iawn dod o hyd iddo gan nad oedd ôl troed digidol, sy’n rhywbeth y dibynnir arno’n aml mewn ymchwiliadau modern, ganddo i’r heddlu ddilyn. Doedd dim ffôn symudol, car, na chyfrif banc ganddo. Parhaodd ditectifs i ymweld a siarad â phobl yn y cymunedau yr oedd ganddo gysylltiadau â nhw.

Cafodd ei olrhain i ardal Glyn-nedd, ac yna Hwlffordd, ar ôl i dditectifs siarad â phobl yn yr ardaloedd sy’n gyfarwydd i Baxter, a daethpwyd o hyd i guddfan wrth chwilio ardal goediog ger Hwlffordd. Trowyd sylw swyddogion yn ôl i Bentywyn ar ôl i gerddwr ci ddod o hyd i guddfan arall ac ar ôl iddo gael ei ddal ar gamera teledu cylch cyfyng yn prynu bwyd a diod yn y siop leol.

Defnyddiwyd seicolegydd fforensig o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol er mwyn helpu i adeiladu proffil o Baxter. Dylanwadodd hyn ar weithgarwch yr heddlu, gan gynnwys geiriad yr ymgyrch ‘yn eisiau’ yn y cyfryngau.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones: “Mae pobl yn gofyn i mi pam ddychwelodd Baxter i leoliad y trosedd, ac rwy’n argyhoeddedig mai cynefindra oedd y rheswm am hyn. Dychwelodd i ardal yr oedd yn ei hadnabod yn dda. Cyflwynodd ei hun fel rhywun a oedd yn medru byw oddi ar y tir. Wrth i ni ddod o hyd i’w guddfannau, daeth yn amlwg nad oedd hyn o reidrwydd yn wir a’i fod yn dangos arwyddion ei fod yn dechrau cael trafferth ymdopi â byw yn yr awyr agored.

“Roeddem yn gwybod ei fod yn ddyn peryglus, felly roedd yn rhaid i ni fod yn arbennig o ofalus yn ein hymagwedd er mwyn peidio â pheryglu aelodau o’r cyhoedd neu swyddogion. Roedd yn gyfnod blinedig a rhwystredig iawn gan ein bod ni mor agos at ddod o hyd iddo. Roedd gennym swyddogion lifrog yn patrolio Pentywyn er mwyn tawelu meddyliau’r gymuned, a thu ôl i’r llenni, roedd gennym dîm o swyddogion mewn dillad cyffredin yn chwilio’r ardaloedd anghysbell a’r coedwigoedd ym Mhentywyn.”

Gwelodd aelod o’r cyhoedd Baxter ddydd Sadwrn 27 Hydref ar draeth Marros yn casglu cregyn gleision a gwymon. Roedd y dyn yn cerdded gyda’i gŵn ar y traeth ac roeddent yn cyfarth ar ôl gweld Baxter. Roedd yn ymddangos fel pe bai’n ceisio cuddio ei wyneb, ac ni edrychodd i fyny. Roedd y cerddwr ci’n teimlo bod hynny’n rhyfedd. Cyfeiriodd at apêl yr heddlu ar gyfryngau cymdeithasol i gadarnhau mai Baxter ydoedd, ac yna galwodd yr heddlu. Daethpwyd o hyd i Baxter cyn pen dim a chafodd ei arestio gan swyddogion mewn dillad cyffredin.

“Ni fyddaf byth yn anghofio derbyn yr alwad i ddweud ei fod wedi cael ei arestio,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Jones. “Roedd yn deimlad arbennig ac yn rhyddhad mawr ein bod ni wedi dal dyn peryglus a chael gwared arno o Bentywyn. Wrth i’r diwrnodau a’r wythnosau fynd heibio, gwyddwn fod y tîm ymchwilio’n blino fwyfwy. Talodd eu gwaith caled ar ei ganfed, ac mae pawb ohonom wedi chwarae’n rhan o ran sicrhau bod ein hardal heddlu’n parhau fel y lle mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr.”

Y chwe mis diwethaf ers y newydd am yr ymosodiad angheuol ar Simon fu’r rhai mwyaf torcalonnus y gallai unrhyw deulu ddioddef. Roedd Simon yn dad hynod ofalgar a chariadus tuag at Jemma a’i ddau fab 12 a 9 oed.

Roedd Simon yn caru bywyd ac yn ei fyw yn ei ffordd ei hun. Roedd bob amser yn garedig a chefnogol i’w ffrindiau, yn arbennig y rhai a oedd angen cymorth ychwanegol i ymdrin â salwch ac anabledd. Roedd yn Samariad trugarog i bawb.

Roedd ganddo lawer o barch tuag at fywyd ac roedd yn casáu creulondeb dynion tuag at ddynion eraill, sydd bob amser ym mywydau’r rhai sy’n methu â diogelu eu hunain neu siarad dros eu hunain, yn arbennig plant diniwed.

Byddai’n aml yn dweud wrthym mai ef oedd y dyn cyfoethocaf yn y byd gan mai Jemma a’r bechgyn oedd ei drysorau gwerthfawr. Roedd mor falch pan gyflwynodd Jemma a Tim ddau ŵyr annwyl iddo yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Ni all ei deulu, ei bartner na’i ffrindiau gredu’r weithred filain sydd wedi cymryd Simon oddi wrthym.
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Heddlu Dyfed-Powys am eu diwydrwydd di-feth wrth fynd ar ôl llofruddion Simon.

Mae eu tîm cyswllt heddlu wedi rhoi’r nerth sy'n cael ei gymryd oddi wrth unrhyw deulu mewn ffordd mor ddideimlad. Ni all cyfiawnder gymryd lle bywyd. Ni all unrhyw gosb leihau baich galar teulu a ffrindiau Simon.

Ni fyddai’r datganiad hwn yn gyflawn heb ein diolch i’r cyngor erlyn a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i ni yn ystod pob cam o’r treial ofnadwy hwn. Cynyddodd eu harbenigedd proffesiynol ein parch a’n gobeithion o ddydd i ddydd.

Rhoddodd eu cryfder a’u dyfalbarhad yn erbyn celwyddau dideimlad, gwyriadau parhaus, a balchder llwyr y cyhuddedig y gobaith cyson i ni o sicrhau cyfiawnder ar gyfer Simon.

Dyma Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones yn esbonio sut y datrysodd Heddlu Dyfed-Powys lofruddiaeth Simon Clark