19 Ebr 2017

Mae’r ddynes a ddaeth yn rhingyll heddlu benywaidd cyntaf Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi’n sôn sut y mae plismona wedi newid yn y 60 mlynedd ers iddi ddod yn swyddog.

Ymunodd Mrs Jean Evans o Sanclêr â Chwnstabliaeth Sir Gaerfyrddin fel cwnstabl heddlu benywaidd yn 1953, pan oedd hi’n 21 oed. Cafodd ei dyrchafu’n Rhingyll yng Nghwnstabliaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi bron 60 mlynedd yn ôl [1958] – gan ddod yn Rhingyll benywaidd cyntaf yr Heddlu.

Ar y pryd, roedd gwrywod yn goruchafu, ac roedd rôl Rhingyll Heddlu Benywaidd yn wahanol iawn i rôl ei chydweithwyr gwrywaidd. Â hithau bellach yn ei 80au, mae Mrs Evans yn cofio am ei hamser yn y gwasanaeth:

“Yn y 50au, roedd plismonesau’n gyfrifol am ymdrin â menywod a phlant. Un o fy nghyfrifoldebau fel Rhingyll benywaidd oedd goruchwylio plismonesau mewn gorsafoedd eraill; roeddwn i’n ymweld ag Aberystwyth, Rhydaman a Llanelli’n aml.

“Byddwn i’n aml yn ymweld â phob un o’r 39 tafarn yng Nghaerfyrddin; roedd yfed dan oed yn faes problemus, ac roedd unrhyw iaith anweddus yn cael ei drin yn gadarn – gan arwain at y llys yn aml! Mewn achosion o’r fath, ni fyddai hawl gan y swyddog ddweud yr union eiriau yn y Llys. Yn hytrach, roedd yn rhaid iddo eu hysgrifennu er mwyn eu cyflwyno i’r ynad.

“Roedd disgyblaeth yn llym. Roedd disgwyl i blismonesau gadw eu gwallt yn fyr a pheidio â gwisgo gemwaith, ac ni fyddent yn tynnu eu hetiau’n aml. Yn wir, pe baech chi’n cael eich dal heb eich het, byddech chi’n cael eich cosbi! 

“Roedd bywyd fel plismones ifanc yn wahanol iawn flynyddoedd yn ôl. Y cyfan oedd gennym oedd chwibanau – dim radios nac unrhyw beth felly. Unwaith, cefais fy ngollwng yn lleoliad digwyddiad lle’r oedd rhwystr ar ffordd, ac anghofiwyd amdanaf! Wrth iddi nosi, llwyddais i yrru neges i’r pencadlys drwy fodurwr a oedd yn digwydd mynd heibio, ond roedd yn rhaid imi fwyta mwyar o’r clawdd hyd nes bod rhywun yn dod i’m casglu...mae’n debyg bod y drwgdybiedigion wedi’u harestio oriau ynghynt, a chefais fy anghofio!”

Un o’r achosion cyntaf roedd Jean yn rhan ohono oedd llofruddiaethau enwog John a Phoebe Harries ym Mhentywyn ym 1953. Ymchwiliwyd i’r rhain gan yr Uwch-arolygydd Capstick o Scotland Yard.  Â hithau newydd gwblhau ei hyfforddiant, gwaith Jean oedd gofalu am y teuluoedd a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad yn ystod y gweithdrefnau llys.

“Â minnau’n ferch leol, roeddwn i’n adnabod Ronald Harries yn bersonol, ac roeddwn i’n ffrindiau gyda’i wraig yn yr ysgol. Roeddwn i yn y llys drwy gydol yr achos a gwelais ef yn cael ei ganfod yn euog o lofruddiaeth a’r barnwr yn gwisgo ei het ddu wrth ddedfrydu Harries i gael ei grogi. Roedd sgwâr tref Caerfyrddin yn llawn o bobl drwy gydol y treial. Roeddent yn ymgasglu yno pob dydd o 3.30 o’r gloch y bore.”

Mae Jean yn aelod gweithgar o gangen Dyfed-Powys o Gymdeithas Genedlaethol yr Heddlu ar gyfer Swyddogion Heddlu Sydd Wedi Ymddeol ac mae’n dal nifer o rolau elusennol yng nghymuned Caerfyrddin. Jean yw gweddw’r diweddar Uwch-arolygydd Delme Evans. 

Ymwelodd Jean â Phencadlys Heddlu Dyfed-Powys ddydd Iau 23 Mawrth 2017 lle derbyniodd arfbais yr heddlu wedi’i frodio gan y Prif Gwnstabl Mark Collins. Cyflwynwyd yr arfbais wedi’i fframio yn wreiddiol i’r diweddar Prif Uwch-arolygydd Donald Griffiths ar ôl iddo ymddeol. Ar ôl iddo farw, gofalodd Jean amdano. Mae Jean hefyd wedi rhoi nifer o eitemau i amgueddfa’r heddlu.