15 Meh 2020

Mae timoedd plismona gwledig wedi cyhoeddi rhybudd ynghylch poeni da byw ar ôl derbyn 80 adroddiad am ddigwyddiadau eleni hyd yn hyn.

Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi uno â’r undebau llafur NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru er mwyn rhybuddio perchnogion cŵn am bwysigrwydd cadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn.

Dywedodd un o swyddogion Powys, Cwnstabl Charlie Jones: “Mae poeni da byw’n peri pryder cynyddol. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn adroddiadau am 80 digwyddiad eisoes eleni. Digwyddodd 30 o’r achosion hynny ym Mhowys. Fodd bynnag, nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys yr holl ymosodiadau nad yw’r heddlu wedi derbyn adroddiadau amdanynt.

 

PC Charlie Jones

PC Charlie Jones

“Yr ydym yn aml yn derbyn galwadau gan ffermwyr, perchnogion tir ac aelodau o’r cyhoedd yn adrodd am anifeiliaid fferm yn cael eu cwrso gan gŵn. Mewn rhai o’r achosion mwyaf difrifol, mae cŵn wedi ymosod ar dda byw a’u hanafu’n ddifrifol, neu eu lladd.

“Yr ydym yn trin yr holl ddigwyddiadau hyn o ddifrif ac yn ymchwilio i bob adroddiad yn drylwyr. Os oes digon o dystiolaeth, gellir cymryd camau gweithredu yn erbyn perchennog y ci.” 

Er mai defaid sy’n cael eu poeni, eu niweidio neu eu haflonyddu yn y rhan fwyaf o achosion poeni, mae’r gyfraith hefyd yn berthnasol ar gyfer gwartheg, geifr, moch, ceffyl ac ieir, ac mae’n cynnwys ci’n ymosod ar yr anifeiliaid hyn neu’n eu cwrso mewn ffordd y byddai’n rhesymol disgwyl iddynt achosi anaf neu ddioddefaint.

Ychwanegodd Cwnstabl Jones: “Gwerthfawrogwn fod perchnogion cŵn yn mwynhau cerdded o gwmpas ein cefn gwlad hardd, ond mae’n hollbwysig cymryd gofal oherwydd mae’n anochel y byddant yn dod ar draws da byw sy’n pori.  

“Mae cŵn yn cwrso wrth reddf, hyd yn oed os ydynt yn ufudd fel arfer. Yr ydym wedi ymdrin â chŵn o bob math a maint mewn cysylltiad â phoeni, o ddaeargwn i hysgwn – mae’r gallu gan bob ci.

“Deallwn y gall realiti ymosodiadau ar dda byw gael effaith ddinistriol ar y ffermwr a’r perchennog ci. Ym Mhowys, ein nod yw addysgu ac annog cefnogaeth gan bob sector o’n cymuned er mwyn atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.”

Mae Tîm Troseddau Gwledig a thîm uwch reolwyr Powys yn gweithio gydag NFU Cymru ac Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru er mwyn ceisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar dda byw yn yr ardal. 

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae colledion gocheladwy, megis y rhai sy’n digwydd pan mae cŵn yn cwrso da byw neu’n ymosod arnynt, yn peri bygythiad difrifol a sylweddol i fywoliaeth ffermydd teuluol.

“Ynghyd â’r materion lles arwyddocaol sy’n digwydd, gall y canlyniadau ariannol fod yn sylweddol a chynnwys erthyliadau, colli stoc magu, colli enillion yn y dyfodol, gostyngiad o ran cynhyrchu, biliau milfeddyg a chost cael gwared ar sgerbwd. Mae gan y costau ychwanegol hyn oblygiadau ariannol difrifol ar gyfer hyfywedd y busnes fferm yn y dyfodol.

“Er mwyn gwarchod iechyd da byw, mae’n hollbwysig hefyd bod cerddwyr cŵn yn codi baw eu ci. Gall baw ci ledaenu afiechydon sy’n achosi problemau lles ac iechyd megis erthyliadau mynych, ac mae hyn yn cynrychioli mater lles ataliadwy yn yr un modd ag ymosodiadau gan gŵn. 

“Yr ydym dal yn annog aelodau o’r cyhoedd i ddefnyddio cefn gwlad yn gyfrifol, ac mae hyn yn cynnwys cadw cŵn ar dennyn ger da byw a chodi baw eich ci.”

Ychwanegodd NFU Cymru y dylai cerddwyr ci gymryd gofal arbennig o ystyried bod nifer fawr o lwybrau cyhoeddus yn croesi tir fferm.

“Mae ffermwyr Cymru’n gofalu am dros 80% o dirwedd Cymru, ac mae nifer o lwybrau cyhoeddus yn mynd trwy dir sy’n cael ei ffermio,” meddai llefarydd.

“Deallwn fod mwy o bobl eisiau ymarfer corff mewn ardaloedd gwledig oherwydd y pandemig coronafeirws, fodd bynnag, mae gormod o lawer o achosion lle mae stoc fregus yn dioddef wrth law cŵn sydd ddim yn cael eu rheoli gan eu perchnogion.

“Hyd yn oed pan mae cŵn yn cwrso defaid, sydd o bosibl yn ymddangos yn ddiniwed, gall hyn achosi straen i’r ddafad. Does dim llawer o obaith i ŵyn ifainc pan maen nhw’n dioddef ymosodiad milain gan gi sydd wedi’i adael yn rhydd o’i dennyn i redeg yn wyllt. 

“Os oes gennych gi, fe’ch cynghorwn i’w gadw wrth eich ymyl a dan reolaeth. Rhowch y ci ar dennyn byr pan mae defaid a gwartheg o gwmpas. 

“Mae arwyddion pyst gât Cymraeg a Saesneg gan NFU Cymru ar gyfer ffermwyr sydd â hawliau tramwy’n rhedeg drwy eu tir er mwyn atgoffa cerddwyr ci am arfer gorau.

“Byddem yn annog ffermwyr i adrodd am bob digwyddiad wrth yr heddlu er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael cofnod cywir o’r broblem ar draws Cymru.”

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae’ch ci bob amser.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich eiddo’n ddiogel er mwyn atal eich ci rhag dianc.
  • Peidiwch â gadael i’ch ci fynd ar dir pori da byw ar ben ei hun.
  • Cadwch at ardaloedd cyhoeddus, hawliau tramwy a llwybrau troed dynodedig.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch ci dan reolaeth agos bob amser.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich ci dan ofal rhywun addas.
  • Adroddwch am unrhyw ddigwyddiadau poeni da byw sy’n ymwneud â’ch ci wrth yr heddlu’n syth.
  • Fe’ch cynghorir i gadw’ch ci ar dennyn ym mhresenoldeb da byw (fodd bynnag, peidiwch â dal gafael ar eich ci os fyddwch chi’n cael eich bygwth gan dda byw – gadewch i’ch ci fynd)
  • Gwellwch arwyddion ar fynedfeydd sy’n rhoi gwybod i gerddwyr cŵn am bresenoldeb da byw yn y caeau.
  • Adroddwch am bob digwyddiad i’r heddlu cyn gynted â phosibl.
  • Tynnwch ffotograffau o’r anafiadau i’r da byw.
  • Tynnwch ffotograffau o’r ci/cŵn cysylltiedig os ydych yn ei weld/eu gweld ar eich tir.
  • Os oes modd, cadwch y ci gyda chi hyd nes i’r heddlu gyrraedd.

Am ragor o gyngor, cysylltwch â swyddogion eich Tîm Troseddau Gwledig Lleol drwy alw 101 neu drwy anfon e-bost at RuralCrimeTeam@dyfed-powys.pnn.police.uk. 

Gellir dilyn y timoedd ar Twitter ar @DPRuralPolicing