30 Hyd 2015

Fel rhan o Ymgyrch Bihafiwch Adeg Nos Galan Gaeaf, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi ymgyrch’r ymgyrch Twyll – Chwedlau Trefol.

Lansiwyd yr ymgyrch er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod y gwir am dwyll a seiberdroseddu ar adeg o’r flwyddyn pan mae mythau’n boblogaidd iawn.

Action Fraud a Heddlu Dinas Llundain sy’n arwain yr ymgyrch, ac mae’n anelu i adnabod mythau cyffredin am dwyll a rhoi gwybod i bobl am y gwir ynglŷn â’r mythau hyn a ffyrdd posibl o osgoi dioddef wrth law twyllwr.

Cychwynnodd yr ymgyrch ddydd Mercher 28 Hydref â myth poblogaidd am dwyll canlyn; mae llawer o bobl yn credu bod y rhai sy’n ymuno â gwefannau canlyn yn cael eu fetio cyn y cânt ymaelodi; fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd fel arfer.

Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o wefannau canlyn yn gadael i bobl gofrestru heb wiriadau fetio, sy’n golygu bod twyllwyr yn medru defnyddio’r gwefannau i dargedu pobl ar’-lein a’u twyllo.

Dywedodd y Comander Chris Greany, Cydlynydd Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer Troseddau Economaidd, sy’n goruchwylio’r ymgyrch: “Mae llawer o gamsyniadau o gwmpas twyll a seiberdroseddu sy’n aml yn gadael pobl yn agored i niwed. Bydd yr ymgyrch hon yn helpu i chwalu’r camsyniadau hyn a rhoi darlun cliriach i’r cyhoedd, gan eu helpu i herio chwedlau trefol posibl a rhoi stop ar dwyllwyr. Gorau po fwyaf o wybodaeth sydd gan bobl am realiti twyll a seiberdroseddu er mwyn ei gwneud hi’n haws i’w atal.”

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthony Evans, o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae llawer o chwedlau trefol eraill yn bodoli, ac rydyn ni’n cydweithio ag Action Fraud er mwyn helpu pobl i ddarganfod y gwir am dwyll a seiberdroseddu cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Dylai’r ymgyrch hon helpu pobl i deimlo’n hyderus a rhoi’r wybodaeth iddynt ddiogelu eu hunain rhag dioddef twyll a seiberdrosedd. Dywedwch wrthym am fythau rydych chi wedi dod ar eu traws ac ymunwch â’r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio #UrbanFraudMyths.”

Twyll – Chwedlau Trefol:

Myth- Nid oes niwed mewn lawrlwytho cynnwys digidol yn anghyfreithlon.

Y Gwir- Mae gan y math hwn o drosedd ddioddefwyr, ac mae’r canlyniadau’n ddifrifol. Gall gwneud hyn arwain at arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau grwpiau troseddu trefnedig difrifol, ac mae’n effeithio’n andwyol ar ddiwydiannau creadigol ac economi’r DU.

Myth- Mae wi-fi cyhoeddus yn ddiogel ac mae’n rhoi fforwm diogel imi siopa, bancio ac ati ar-lein.

Y Gwir- Gellir rhyng-gipio unrhyw ddata a anfonir trwy wi-fi cyhoeddus oni bai eich bod chi wedi cymryd camau i amgryptio eich data. Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol dros wi-fi cyhoeddus, rydych chi’n peryglu diogelwch eich gwybodaeth bersonol, hunaniaeth ddigidol, a’ch arian. Mae’r peryglon yn uwch os nad yw’ch dyfais neu’ch cyfrifiadur wedi’i ddiogelu â system ddiogelwch effeithiol.

 

Myth- Gall staff banc ofyn i chi am eich rhif PIN neu gyfrinair bancio ar-lein er mwyn gwirio pwy ydych chi pan maen nhw’n eich galw.

Y Gwir- Ni fydd staff banc byth yn gofyn am eich rhif PIN cerdyn 4 digid na’ch cyfrinair bancio ar-lein wrth siarad â chi dros y ffôn. Ni fyddant yn gofyn i chi deipio’r rhif i mewn i fysellbad y ffôn chwaith.

 

Er mwyn darllen am ragor o fythau, galwch heibio i www.actionfraud.police.uk/resources-and-campaigns/urban-myths.