04 Mai 2017

 

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth a allai helpu i ddod o hyd i David Raymond Legg, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel David Raymond Gleed, 36 oed, o ardal Rydaman.

 

Mae Mr Legg yn eisiau am dorri gorchymyn atal a galwad yn ôl i’r carchar. Mae Mr Legg wedi bod ar goll ers dydd Mercher 19 Ebrill.

 

Mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd Abertawe, Rhydaman a Llanelli.

 

Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad i gysylltu â’r heddlu drwy alw 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.