13 Hyd 2016

Yn dilyn adroddiadau am gyfres o ddigwyddiadau galw diwahoddiad yn Sir Benfro, mae Heddlu Dyfed-Powys yn atgoffa perchnogion tai a pherthnasau pobl sy’n agored i niwed i fod yn wyliadwrus ynghylch peryglon galwyr diwahoddiad.

Mae galwyr ffug yn manteisio ar bobl fwyaf bregus ein cymuned gan geisio’u twyllo i roi symiau enfawr o arian am waith diangen neu sydd wedi ei orbrisio. Weithiau maen nhw’n esgus eu bod yn perthyn i gwmnïau parchus ac weithiau maen nhw’n defnyddio tactegau tynnu sylw.

Bydd galwyr diwahoddiad yn eich ffonio neu’n cnocio eich drws yn ddirybudd ac yn ceisio gwerthu nwydd neu wasanaeth i chi. Mae nifer yn ddilys ond gall rhai fod yn dwyllodrus.

Dywedodd y Rhingyll Geraint Lewis o Heddlu Dyfed-Powys: “Yn anffodus nid oes gan bob un sy’n cnocio ar eich drws yn ddirybudd reswm dilys dros fod yno. Troseddwyr yw galwyr ffug ac rydym yn annog preswylwyr i fod yn wyliadwrus ac i wybod beth i’w wneud os ydynt yn derbyn ymweliad gan ymwelydd ffug. Y peth pwysicaf yw gofyn am gerdyn adnabod, ynghyd â gosod a defnyddio cadwyn drws. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â’u gadael drwy’ch drws.”

Mae swyddogion heddlu yn Sir Benfro yn rhybuddio perchnogion tai a pherthnasau pobl sy’n agored i niwed i fod yn ymwybodol bod galwyr twyllodrus a diwahoddiad allan yno, ac yn eu cynghori i ddilyn rhai camau syml ar gyfer diogelu eu hun:

  • Ystyriwch osod cadwyn ar y drws – a defnyddiwch ef bob tro. Cofiwch gadw’r gadwyn ar y drws nes eich bod yn sicr bod y galwr yn ddilys.
  • Peidiwch â gadael unrhyw un i mewn i’ch cartref nad ydych yn eu hadnabod neu nes eich bod yn hollol fodlon maen nhw yw pwy y maen nhw’n honni bod.
  • Sicrhewch fod y galwr yn ddilys. Gofynnwch am gerdyn adnabod. Os oes gennych amheuon, ffoniwch y cwmni y mae’r galwr yn honni gweithio iddynt. Peidiwch â defnyddio rhif oddi ar eu cerdyn ond edrychwch am y rhif yn y llyfr ffôn.
  • Peidiwch â gadael i’r galwr eich rhwystro rhag gwneud y pethau hyn drwy ddweud ei fod ef neu hi ar frys. Ni fydd galwr dilys yn malio disgwyl y tu allan gyda’r drws ar gau tra eich bod chi’n ffonio.
  • Os ydych yn ddall, yn gweld yn rhannol, neu’n cael trafferth symud, gallwch drefnu i gael eich mesuryddion wedi’u darllen ar amser rydych yn cytuno arno gan aelod o staff a enwir. Pan fyddant yn galw, bydd darllenydd y mesurydd yn rhoi eu henw neu gyfrinair rydych wedi cytuno arno. Os ydych yn pryderu, ffoniwch yr heddlu.
  • Gofynnwch i ffrind neu gymydog alw tra bod y galwr yno.
  • Peidiwch byth â gadael allwedd wedi ei guddio y tu allan i’r cartref (e.e. o dan fat y drws)
  • Os ydych yn gwerthu eich cartref, peidiwch byth â mynd â phobl o amgylch y tŷ ar eich pen eich hun. Gofynnwch i’ch gwerthwr tai anfon cynrychiolydd gydag unrhyw un sydd eisiau gweld eich cartref.

Os ydych yn amau i chi weld galwyr ffug neu fasnachwyr twyllodrus galwch 101 i’w riportio. Galwch 999 os ydynt yn mynd yn fygythiol neu i riportio byrgleriaeth tynnu sylw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich diogelu eich hun a’ch cartref rhag galwyr ffug ewch at www.dyfed-powys.police.uk neu ffoniwch 101.