Quickly exit this site by pressing the Escape key Leave this site
We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Sorry, there was a technical problem. Please try again.
This site is a beta, which means it's a work in progress and we'll be adding more to it over the next few weeks. Your feedback helps us make things better, so please let us know what you think.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 275/2023
Cais:
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fe hoffwn y wybodaeth ganlynol ynghylch troseddau
rhyw yn erbyn plant rhwng 2018 a 2022 hyd yn hyn.
heddlu rhwng 2018 a 2022? Gofynnaf am y wybodaeth fesul blwyddyn, wedi’i rhannu
fel a ganlyn: Disgrifiad o’r drosedd, oedran y dioddefwr, rhyw'r dioddefwr, lleoliad* y
drosedd, a chanlyniad y drosedd.
*Powys, Ceredigion, Sir Gâr, a Sir Benfro
Os oes angen rhagor o esboniad arnoch, mae croeso ichi gysylltu â mi. Fe fyddwn yn
gwerthfawrogi petaech yn cadarnhau derbyn y cais hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed
gennych o fewn y cyfnod statudol o 20 diwrnod gwaith.
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n:
(a) nodi’r ffaith hwnnw,
(b) nodi’r eithriad dan sylw ac
(c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys.
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Adran 12 (1) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â’ch cais ichi’n uwch na’r swm y mae’n ofynnol inni’n gyfreithiol i ymateb iddo h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 74 awr) i gydymffurfio â’r rhan hwn o’ch cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar:
www.legislation.hmso.gov.uk/si/si2004/20043244.htm
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn cael ei dal ar ffurf sy’n hawdd ei hadalw. Mae hyn i’w briodoli i’r ffaith y byddai angen adolygu pob cofnod trosedd sy’n ymwneud â throsedd ryw yn erbyn plentyn dan oed er mwyn nodi oed a rhyw’r dioddefwr, ble mae’r categorïau wedi’u gadael yn wag neu’n anhysbys, sydd yn golygu nifer sylweddol o gofnodion.
Sefydlwyd bod cyfanswm o 449 cofnod y byddai angen edrych arnynt yn fanwl ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i ymchwilio i bob cofnod unigol. Nodir amcangyfrif o’r amser perthnasol isod:
Blwyddyn |
Nifer y cofnodion gyda chategorïau gwag neu anhysbys |
Amser ar gyfer archwilio i bob cofnod (oriau) |
2018 |
82 |
13.7 |
2019 |
87 |
14.5 |
2020 |
81 |
13.5 |
2021 |
95 |
15.8 |
2022 |
104 |
17.3 |
Cyfanswm |
449 |
74.8 |
Amcangyfrif o gyfanswm yr amser i gwblhau’r cais cyfan = 74.8 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod ar gyfer y cais CYFAN o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn berthnasol, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai yr hoffech fireinio’ch cais a’i ailgyflwyno fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod fel ei fod yn syrthio o fewn y 18 awr.
Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, peidiwch ag oedi i gysylltu â mi.
Fe’ch cynghorir hefyd nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol os yw’r cais yn cael ei fireinio.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 26/01/2024)
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.